Rhaid symud ymlaen o Munster meddai Turnbull

by

in

Gyda gêm enfawr yn erbyn Connacht wythnos nesaf, mae Josh Turnbull yn dweud ei fod hi’n bwysig fod Gleision Caerdydd yn symud ymlaen ar ôl iddynt golli o 45 pwynt i 21 yn erbyn Munster nos Wener.

Dim ond dwy gêm sydd yn weddill yn nhymor y Guinness PRO14, gyda tîm John Mulvihill i wynebu eu gelynion yn y ras am y trydydd safle – Connacht a’r Gweilch.

Mae’r blaenwr rhyngwladol yn cyfaddef fod rhaid i’w dîm ddysgu o’r ornest yng Nghorc, a mae’n gobeithio am ffafr gan Zebre, wrth i’r Eidalwyr wynebu Connacht nes ymlaen heddiw.

Dywedodd Turnbull: “Oedd e’n anodd yn yr ail hanner a oeddem ni wedi methu cael ein amddiffyn ni i roi ni ar y droed flaen.

“Mae’n rhaid i ni ddysgu gwers o’r gêm heno a symud ymlaen. Mae gêm enfawr gyda ni wythnos nesaf mas yn Connacht.

“Byddwn ni’n dod i mewn dydd Llun er mwyn edrych dros y tapiau a gweld beth ni’n gallu gwneud yn well.

“Roeddem ni’n ymosod yn dda, ond roedd hi’n anodd i ni pan oedd gan Munster y bêl yn yr ail hanner, oherwydd oedde nhw’n creu problemau i ni.

“Pan ni’n ymosod, mae’n rhaid i ni gadw gafael ar y bêl a bod yn well gyda’r meddiant a creu mwy o broblemau i’r tîm arall.

“Mae John wedi dweud wythnos hyn bod rhaid i ni ennill dau gêm mas o dri a ni’n teimlo bod cyfle gyda ni yn Galway wythnos nesaf.

“Ni wedi curo Connacht unwaith yn barod tymor yma, a mae cyfle gwych gyda ni mas yna ond bydd rhaid i’r tîm troi lan a perfformio am yr 80 munud.

“Gall Zebre greu problemau i Connacht, a mae nhw wedi gwneud hynny i ni tymor hyn, a mae nhw’n adeiladu tîm cryf felly gawn ni weld beth mae nhw’n gallu gwneud dydd Sadwrn.”

Latest news