Blog Banner

Rhaid parhau i ddangos cymeriad - Turnbull

Cymraeg | 2nd March 2020


Mae Josh Turnbull yn mynnu fod rhaid i’w dîm barhau i ddangos cymeriad wrth iddynt frwydro am le yn nhri uchaf Adran B y Guinness PRO14.

Teithiodd Gleision Caerdydd i Gaeredin nos Wener gyda John Mulvihill wedi’i orfodi i wneud pedwar newid hwyr ar ôl i Shane Lewis-Hughes, Lloyd Williams, Ben Thomas a Hallam Amos dynnu mas yn dilyn anafiadau.

Colli oedd eu hanes yn erbyn y tîm sydd ar frig y tabl, gyda chic gosb hwyr Simon Hickey yn cymryd pwynt bonws allan o ddwylo’r ymwelwyr.

Ond, gyda chwaraewyr o’r academi fel Max Llewellyn a Ioan Davies yn casu i mewn i’r tîm, roedd Turnbull yn falch o ymdrechion ei dîm.

“Ni’n siomedig i beidio ennill y gêm ‘na, ond ni’n falch iawn o’r bois i gyda am troi lan a rhoi popeth i mewn i’r gêm,” meddai’r blaenwr.

“Mae lot o waith i wneud nawr, ond os ni’n dangos yr un cymeriad gyda bois i ddod yn ôl o garfan Cymru ac o anafiadau, byddwn ni yn y lle iawn a gallwn ni greu problemau i dimau eraill.

“Oedd cynllun ‘da ni i’r ffordd o ni eisiau chwarae a roedd hynny wedi gweithio yn grêt yn yr hanner cyntaf.

“Yn yr ail hanner, o ni’n ffili cael yn y llefydd iawn ar y cae i dod mas a cael pwyntiau.

“O ni’n methi cael y bêl yn yr ail hanner, a roedd Caeredin yn rhoi pwysau arnom ni ac yn gwneud hi’n anodd i ddod mas o’n 22.

“Roedd amser byr i droi rownd ar ôl y gêm yn erbyn Benetton, dim ond pump diwrnod, a mae hynny’n anodd.

“Fel tîm, chi’n mynd i gael ychydig o anafiadau ar y ffordd, a mae hynny’n anodd ond ni’n browd iawn o’r garfan gyda bois yn chwarae eu gemau cyntaf.”