Blog Banner

Grady yn benderfynol o orffen y tymor yn gryf ar ôl profiad rhyngwladol

Cymraeg | 23rd March 2023


Mae Mason Grady yn benderfynol o orffen y tymor yn gryf, ar ôl iddo ddychwelyd o’i brofiad cyntaf yn rhan o garfan rhyngwladol Cymru.

Enillodd y canolwr ugain oed ei gap cyntaf yn erbyn Lloegr yn Nhrydedd Rownd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, gan ymddangos yn y fuddugoliaeth dros Yr Eidal hefyd.

Ond nawr ei fod yn ôl gyda’i glwb, mae’n gobeithio gweld Caerdydd yn cystadlu yn y gynghrair ac Ewrop, gan gychwyn gyda’r daith i Parma penwythnos yma.

Mae hon yn gêm ni angen ennill, yn sicr,” meddai’r canolwr ifanc, ddaeth trwy system academi’r clwb,” meddai Grady.

 “Mae Zebre yn dîm peryglus iawn, felly ni angen bod ar ein gorau a gobeithio gallwn ni gael y fuddugoliaeth.

“Os ni’n ennill, gobeithio gallwn ni gael ychydig bach o momentwm er mwyn cicio ymlaen dros weddill y tymor.

“Gobeithio ni’n gallu cael ein hunain i mewn i Gwpan y Pencampwyr y tymor nesaf.

“Mae Sale yn dod lan, fydd o bosib gêm gartref olaf y tymor, felly gobeithio gallwn ni ennill y gêm yna a pargau yn y gystadleuaeth.”

Mae Grady yn dweud ei fod wedi dysgu lot gan y profiad o’i gwmpas yng ngharfan Cymru, ac yn gobeithio trosglwyddo hynny i’r crys Glas a Du.

“Fi wedi joio bod yn rhan o’r garfan a fi wedi dysgu llawer gan bois fel Dan [Biggar] and George [North],” ychwanegodd y canolwr.

“Felly ie, fi wedi joio ond fi hefyd yn falch i fod yn ôl fan hyn nawr a gobeithio gallwn ni gicio ymlaen dros weddill y tymor.

“Mae chat fi ar y cae yn rhywbeth fi angen gweithio arno, a hefyd gael fy nwylo ar y bêl a gwneud beth fi’n gallu ar y cae.

“Ond i fod yn onest, fi eisiau bod gyda Caerdydd nawr a gobeithio ennill gweddill y gemau er mwyn mynd lan y tabl.

“Gobeithio fi’n gallu dod a ychydig o’r intensity o’r gêm rhyngwladol yn ôl i fan hyn.”