Blog Banner

Gatland yn cynnwys Lewis ac Amos i wynebu Uruguay

Cymraeg | 11th October 2019


Mae Dillon Lewis ac Hallam Amos wedi cael eu enwi yn nhîm Cymru wrth i Warren Gatland wneud 13 o newidiadau ar gyfer eu gêm olaf yng Ngrŵp D yn erbyn Uruguay dydd Sul (CG 9.15yb).

Mae Amos, wnaeth symud i Gleision Caerdydd o’r Dreigiau dros yr Haf, yn rhan o garfan y gêm am y tro cyntaf yng Nghwpan y Byd eleni.

Fe wnaeth yr asgellwr ddau ymddangosiad yng Nghwpan y Byd 2015, gan gychwyn yn y fuddugoliaeth hanesyddol dros Lloegr yn Twickenham.

Ar y llaw arall, mae Lewis wedi ymddangos fel eilydd ym mhob gêm yn y gystadleuaeth eleni, gyda Cymru yn cynnal record o ennill pob gêm ar ôl trechu Georgia, Awstralia a Fiji.

Yn dilyn hat-tric yn y fuddugoliaeth dros Fiji, Josh Adams yw un o ddau yn unig i gadw eu lle yn y tîm, gyda Hadleigh Parkes yn ymddangos yn y canol unwaith eto.

Mae Adams yn chwarae yn y tri ôl gyda Amos a Leigh Halfpenny, ddaeth drwy academi Gleision Caerdydd.

Yn arwain ei wlad am y tro cyntaf mae Justin Tipuric, tra fod tri arall o academi Gleision Caerdydd wedi eu henwi yn y 23, sef Rhys Patchell, Bradley Davies a’r eilydd Rhys Carré.

Mae’r mewnwr Tomos Williams yn parhau ar y fainc, ar ôl gwneud argraff yn y gystadleuaeth hyd yn hyn, tra fod Josh Navidi - un o sêr Cymru hyd yn hyn - yn cael ei orffwyso.

Cymru i wynebu Uruguay (Dydd Sul, Hydref 13, KO 9.15yb):

1. Nicky Smith (Gweilch) (33 Cap)
2. Ryan Elias (Scarlets) (8 Cap)
3. Dillon Lewis (Gleision Caerdydd) (18 Cap)
4. Bradley Davies (Gweilch) (65 Cap)
5. Adam Beard (Gweilch) (16 Cap)
6. Aaron Shingler (Scarlets) (23 Cap)
7. Justin Tipuric (Gweilch) (68 Cap) (Capt)
8. Aaron Wainwright (Dreigiau) (15 Cap)
9. Aled Davies (Gweilch) (19 Cap)
10. Rhys Patchell (Scarlets) (16 Cap)
11. Hallam Amos (Gleision Caerdydd) (20 Cap)
12. Hadleigh Parkes (Scarlets) (21 Cap)
13. Owen Watkin (Gweilch) (18 Cap)
14. Josh Adams (Gleision Caerdydd) (17 Cap)
15. Leigh Halfpenny (Scarlets) (83 Cap)

Replacements:

16. Elliot Dee (Dreigiau) (25 Cap)
17. Rhys Carre (Saracens) (2 Cap)
18. Wyn Jones (Scarlets) (18 Cap)
19. Jake Ball (Scarlets) (39 Cap)
20. Ross Moriarty (Dreigiau) (37 Cap)
21. James Davies (Scarlets) (6 Cap)
22. Tomos Williams (Gleision Caerdydd) (12 Cap)
23. Gareth Davies (Scarlets) (47 Cap)​