Blog Banner

Dim ond megis cychwyn mae'r tymor - Goodfield

Cymraeg | 25th October 2020


Er fod Gleision Caerdydd wedi ennill eu dwy gêm agoriadol, dim ond megis cychwyn mae’r tymor, meddai Duane Goodfield. 

Ar ôl ennill naw pwynt yn erbyn Zebre a Connacht, mae tîm John Mulvihill yn paratoi i wynebu Munster nos Lun.

Mae Goodfield yn ymwybodol o’r sialens sydd yn wynebu ei dîm - gyda’r Gwyddelod hefyd yn ennill eu dwy gêm gyntaf - ond mae’n ffyddiog yn nyfnder y garfan er fod saith chwaraewr ar ddyletswydd gyda Cymru.

“Bydd e yn wahanol i chwarae ar nos Lun ond mae’r bois mewn lle da, yn enwedig ar ôl ennill y ddwy gêm gyntaf,” meddai’r hyfforddwr sgrymiau.

“Mae’r bois wedi bod yn gyffrous iawn wrth ymarfer wythnos yma. Ni mewn lle da a ni’n edrych ymlaen at y gêm.

“Mae wedi bod yn bwysig i ni cael dechrau da blwyddyn yma, yn enwedig ar ôl colli y gemau cyntaf yn y blynyddoedd cynt.

“Ond ni’n gwybod bod Munster yn gryf iawn a mae nhw dal gyda carfan cryf er bod nifer o’r bechgyn yng ngharfan Iwerddon.

“Ni wedi datblygu’r garfan, a mae hynny yn golygu bod bois fel James Botham am gael siawns.

“Mae e wedi cymryd y siawns a cael gafael ar y crys yna a bydd bois fel Kristian Dacey yn dod yn ôl i mewn i’r pac hefyd.

“Ni mewn lle da ar hyn o bryd. Ni wedi cael cychwyn da, ond ni hefyd yn gwybod fod y tymor yn cychwyn nawr.

“Ni’n lwcus bod ni wedi cadw bois fel Jarrod Evans gyda ni a bydd y gêm dydd Llun yma yn golygu bod y tymor yn cychwyn go wir.

“Mae’n bwysig i fynd mas ‘na a dod yn ôl gyda’r canlyniad. Gobeithio gallwn ni wthio ymlaen yn y gemau sydd i ddod.”