Blog Banner

Chwaraewr academi Gleision Caerdydd, Theo Cabango, yw seren rhaglen ddogfen ar S4C

Cymraeg | 8th June 2021


Chwaraewr academi Gleision Caerdydd, Theo Cabango, fydd yn serennu mewn rhaglen ddogfen arbennig gyda'i frawd, Ben, ar S4C nos Fawrth.

Mae'r dau frawd ifanc o Gaerdydd yn creu cryn argraff ar fyd campau Cymru, gyda Ben yn rhan o garfan Cymru ar gyda UEFA EURO 2020.

Bu’r camerâu yn dilyn Ben a Theo yn ddiweddar, yn ystod cyfnod hynod gyffrous yn eu gyrfaoedd.

Mae Ben, y brawd hynaf sydd newydd droi’n 21 oed, yn bêl-droediwr proffesiynol sydd wedi sefydlu ei hun fel amddiffynnwr i Abertawe. Mae Ben hefyd wedi ennill tri chap dros Gymru ac wedi ei enwi yn y garfan ar gyfer UEFA EURO 2020.

Mae ei frawd Theo, 19 oed, yn aelod o academi rhanbarth rygbi Gleision Caerdydd. Mae'r cyn chwaraewr Ysgol Gyfun Glantaf wedi cynrychioli ail dîm y clwb ac yn gobeithio efelychu ei frawd a chynrychioli ei wlad yn y dyfodol.

Mae dyfodol llewyrchus o flaen y ddau, ac mi fydd y rhaglen Y Brodyr Cabango: Dau Frawd, Dwy Gêm yn rhoi golwg unigryw i’w bywydau; fel athletwyr elît, fel meibion ac fel brodyr. Byddwn hefyd yn dysgu mwy am wreiddiau eu teulu yng Nghymru ac yn Angola, ac yn siarad gyda’u rhieni balch, Paulo ac Alysia. Bydd y rhaglen i’w gweld am 9.00yh ar nos Fawrth 8 Mehefin, ar S4C.

Dywedodd Alysia Cabango, mam Ben a Theo: "Fel mam, mae’n hyfryd meddwl bod y ddau yn gallu ennill cap i Gymru. Mae’n lyfli gweld eich plant yn tyfu lan, gwneud beth maen nhw’n dwlu gwneud, a chredu yn eu hunain. Mae’n adeg cyffrous, ni methu rhoi e mewn geiriau.

"Mae’n deimlad emosiynol iawn os fi’n cael pum munud i feddwl am bethe. Just yn meddwl bod nhw ‘di cael plentyndod hapus a bod nhw ‘di cyrraedd y pwynt ble maen nhw nawr yn gwneud rhywbeth maen nhw’n rili mwynhau. Os maen nhw’n hapus, dyna’r unig beth dwi’n poeni amdano."

Er iddo brofi’r siom o golli yn rownd derfynol gemau ail gyfle y Bencampwriaeth gydag Abertawe yn ddiweddar, roedd clywed ei fod am fod yn rhan o garfan yr Euros yn hwb mawr i Ben.

Meddai Ben: "Mae chwarae i Gymru wastad wedi bod yn fy top thing. Fi’n cofio mynd i’r Fan Zone yn Euro 2016 a meddwl bo fi’n gallu chwarae un diwrnod, a phobl yn cefnogi fi fel o’n i’n cefnogi nhw yn y Fan Zone. Mae e’n meddwl gymaint i fi. Ti just yn gorfod cario ‘mlaen i weithio’n galed a gwneud yn siΕ΅r bod dy freuddwyd yn dod yn wir.

"Fi’n cofio fy ngêm gyntaf dros Gymru. Roeddwn ni’n chwarae yn erbyn Y Ffindir, ac yn ennill 1-0 ar yr amser. Dim ond un munud oedd ar ôl ond o’n i mor gyffrous i ddod ar y cae. Odd e’n bittersweet oherwydd oedd y teulu ddim yn gallu bod yna, ond roedd e’n amser rili cyffrous. Ar ôl hwnna o’n i just eisiau chwarae mwy a mwy dros Gymru."

Mae Theo yn anelu at ennill ei gap cyntaf yng nghystadleuaeth Rygbi’r Chwe Gwlad Dan 20 eleni.

Ychwanega Theo: "O’n i’n prowd i weld Ben achos dyna be fi eisiau gwneud - mynd ymlaen i chwarae i Gymru, ac mae e’ di neud e’n barod, yn 20 mlwydd oed. Mae e’n role model i fi a rhywbeth i anelu am. Fi di gweithio mor galed. Fi eisiau dweud mai blwyddyn yma yw blwyddyn fi."

Y Brodyr Cabango: Dau Frawd Dwy Gêm
Dydd Mawrth, 8 Mehefin, 9.00  
Isdeitlau Saesneg                                
Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Rondo Media
ar gyfer S4C