Blog Banner

Adams yn ymuno â charfan Cymru ar nodyn perffaith wedi'r fuddugoliaeth dros Connacht

Cymraeg | 12th October 2020


Wrth baratoi i ymuno â charfan Cymru ar gyfer gemau’r Hydref, mae Josh Adams yn gadael Gleision Caerdydd ar y nodyn perffaith ar ôl pwynt bonws yn erbyn Connacht.

Yr asgellwr oedd Seren y Gêm Guinness, wrth i dîm John Mulvihill barhau eu dechrau perffaith i’r tymor, a chwaraeodd ran allweddol yn y fuddugoliaeth, gan greu dau gais i’w dîm.

Mae’r seren rhyngwladol yn falch o weld hyder o fewn y garfan, a mae’n mynnu y bydd y gwaith caled yn parhau wrth i’r tîm baratoi i wynebu Munster ymhen pythefnos.

“Oedd hi’n gêm galed ond roedd y bois wedi edrych ymlaen i chwarae yn ôl adref, er bod ni fan hyn yn Rodney Parade a nid ym Mharc yr Arfau," meddai'r asgellwr.

“Ond mae hi wedi bod yn ddechrau gwych i’r tymor i ni. Er, o’n i’n meddwl bod nhw wedi cael y chwaraewr anghywir pan nes i glywed mai fi oedd Seren y Gêm. 

"Ar ôl amddiffyn yn gryf wythnos diwethaf, tra ein bod ni lawr i 14 dyn, o'n ni eisiau adeiladu ar hynny.

"I fod yn deg, mae Connacht yn gorfforol a mae nhw'n cario'n gryf. Ond o'n ni wedi sefyll lan yn dda a roedd y cefnwyr yn edrych yn siarp.

"Roedd digon o gyfleuon wedi cael eu creu, ac ambell i gais yn cael ei adael mas ar y cae, a mae hynny'n rhywbeth cryf i adeiladu arno.

"Dim cais i fi heno, ond roedd Hallam wedi croesi am ddau gais a mae'n grêt i fod yn han o dîm sydd yn adeiladu rhywbeth.

"Ni'n gwella pob wythnos, a dyna'r peth pwysicaf. Dwy fuddugoliaeth - un adref ac un oddi cartref - a mae lot i fod yn gyffrous amdano.

“O’n i moen gweithio’n galed i’r tîm heno. Nawr ni wedi cael y pump pwynt ac yn edrych ymlaen i wythnos bant a wedyn Munster.

“Bydda i’n ymuno gyda carfan Cymru dydd Llun nawr a bydd rhaid i ni paratoi ar gyfer y gemau yna.

“Mae’r Autumn Nations Cup a gemau yn erbyn Ffrainc a’r Alban i ni edrych ymlaen i hefyd."