Blog Banner

Ysbryd carfan dan-20 Cymru yn uchel - Lloyd

Cymraeg | 30th June 2021


Mae Ethan Lloyd yn dweud fod yr ysbryd yn uchel yng ngharfan Cymru dan-20, wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Ffrainc dydd Iau.

Ar ôl ennill yr ornest agoriadol yn erbyn Yr Eidal, colli oedd hanes tîm Ioan Cunningham yn erbyn Iwerddon ar Barc yr Arfau wythnos diwethaf.

Mae’r prif hyfforddwr wedi gwneud wyth newid i’w dîm wythnos yma, gyda mewnwr Caerdydd yn cychwyn am y tro cyntaf ar ôl dau ymddangosiad fel eilydd.

Mae Lloyd yn credu fod ysbryd y garfan yn golygu fod y tîm yn chwarae dros eu gilydd a mae’n mwynhau’r gystadleuaeth yn y garfan am y crys rhif naw.

“Mae wedi bod yn wythnos anodd ar ôl colli ond ers dydd Sul ni wedi bod yn edrych ymlaen i’r gêm yn erbyn Ffrainc,” meddai aelod yr academi.

“Ni wedi ymarfer yn dda a nawr ni’n edrych ymlaen i fynd mas ‘na.

“Mae grwp da yma i fod yn deg. Mae pawb yn dod ymlaen gyda’i gilydd a ni’n cael lot o hwyl yn y gwesty.

“Felly pan ni mas ‘na yn chwarae, mae’r ffaith ein bod ni mor agos yn gwneud hi’n haws chwarae dros eich gilydd pan chi’n dechrau blino.

“Mae llawer o gystadleuaeth, ond mae hynny’n helpu pawb. Ni’n ceisio helpu ein gilydd gan ei fod yn gwneud y tîm yn well.

“Yn yr hir-dymor ni’n mynd i allu dysgu pethau gwahanol gan ein gilydd.”

Nid yn unig gyda Chymru mae gan Lloyd frwydr am le fel mewnwr.

Ond mae’r cyn chwaraewr Treorci yn benderfynol o ddefnyddio presenoldeb chwaraewyr profiadol megis Tomos Williams, Lloyd Williams a Lewis Jones o’i blaid, wrth iddo geisio cymryd y camau nesaf yn ei yrfa ifanc.

“Mae nhw i gyd yn chwaraewyr da mewn ffyrdd gwahanol a galla i ddysgu pethau gwahanol gan y tri ohonyn nhw,” meddai Lloyd.

“Mae’n dda i weld nhw pob dydd a beth mae nhw’n gwneud ar y cae.

“Mae’n dda i chwarae’r bencampwriaeth yma ar Barc yr Arfau. Fi’n ymarfer yno pob dydd felly fi’n nabod y stadiwm yn dda.

“Mae’n le da i chwarae a roedd hi’n dda i gael cefnogwyr yn ôl yn gwylio hefyd.”