Blog Banner

Wynebau newydd y garfan wedi creu argraff yn barod - Adams

Cymraeg | 16th September 2022


Mae Josh Adams wedi datgelu fod wynebau newydd carfan Caerdydd wedi creu argraff ar ac oddi ar y cae.

Mae Liam Williams, Thomas Young, Taulupe Faletau a Lopeti Timani i gyd wedi eu cynnwys yn y garfan ar gyfer gêm agoriadol y tymor yn erbyn Munster brynhawn Sadwrn (CG 3.05yh).

A mae’r asgellwr rhyngwladol yn credu fod gan Gaerdydd ansawdd yn y garfan i gystadlu eleni, ond mae’n mynnu fod rhaid iddynt fod ar eu gorau yn erbyn y Gwyddelod.

“Fi’n edrych ymlaen at dydd Sadwrn nawr. Roedd hi’n haf neis i gael amser bant gyda’r teulu. Mae gen i blentyn bach felly roedd hi’n neis i gael amser gyda hi hefyd,” meddai Adams.

“Ond nawr fi’n rili cyffrous am y tymor newydd. Mae bois newydd wedi dod mewn a mae’r bois sydd wedi bod ‘ma ers y diwrnod cyntaf yn edrych yn dda. Mae nhw’n ffit a nawr ni’n edrych ymlaen i’r gêm ar y penwythnos.

“Mae cael lleisiau newydd yn y garfan yn neis yn yr ystafell newid, a mae nhw’n hapus siarad i fyny mewn cyfarfodydd. Mae lot o brofiad yn yr ystafell nawr, yn enwedig gyda bois fel Liam, Toby a mae Lopeti wedi chwarae rygbi rhyngwladol dros Tonga ac Awstralia.

“Ni wedi ychwnegu lot o safon, fi’n edrych ymlaen i weld nhw’n chwarae a gobeithio geith nhw eu ymddangosiad cyntaf fan hyn dros y penwythnos.

“Mae Munster wedi cael newidiadau, ond mae nhw wastad yn gêm galed dim ots pwy sydd yn hyfforddi nhw. Mae nhw’n dîm cryf gartref ac oddi cartref felly bydd hi’n gêm galed i gychwyn y tymor.

“Ond mae’r garfan yn gyffrous i wynebu Munster gyntaf a gobeithio bydd torf fawr gyda ni prynhawn Sadwrn. Ni’n edrych ymlaen.

“Ni eisiau bod yn fwy cystadleuol. Tymor diwethaf, ar ôl i’r tîm arall sgorio cais neu ddau, o’n ni’n methu cymryd y droed yn ôl. Bydden nhw’n mynd ymlaen i sgorio tri, pedwar, pump cais ar ôl ‘ny.

“Ni eisiau aros yn y gêm am lot mwy o amser a bod yn fwy cyson fel carfan. Dyna’r gair mae pawb yn ddefnyddio ond mae lot o bethe’ yn dod mewn i hynny.

“Ni wedi bod yn gweithio yn galed dros yr Haf ar hynny, ac wedi newid pethau bach yn yr ymosod, felly gobeithio all bawb fwynhau hynny hefyd.”