Mae Lloyd Williams yn ysu i adeiladu ar y fuddugoliaeth dros Newcastle, wrth i Gleision Caerdydd baratoi i groesawu Stade Francais i Gasnewydd dydd Sul.
Ar ôl cychwyn yr ymgyrch Ewropeaidd gyda buddugoliaeth ym Mharc Kingston, gornest yn erbyn y cewri o Ffrainc sydd yn wynebu tîm John Mulvihill dydd Sul.
Mae’r mewnwr yn ymwybodol fod lle i wella ar eu perfformiad, ond mae’n gobeithio gall ei dîm ddefnyddio’r momentwm cyn gemau’r Nadolig.
“Roedd y canlyniad yn dda iawn ond mae pethau bach mae’n rhaid gwella gyda perfformiad ni,” meddai Williams.
“Bydd y chwaraewyr yn gwybod beth yw heini, ond mae’n braf i gychwyn y bencampwriaeth gyda buddugoliaeth.
“Wnaeth y blaenwyr yn dda i chwarae rygbi effeithiol ac uniongyrchol, a dyna beth oedd ei angen.
“Roedd y gêm cicio wedi gweithio yn dda i roi pwysau ymlaen yn ei hanner nhw.
“Yn anffodus, ni ddim wedi cael canlyniadau gwych yn ddiweddar gyda’r Gleision, ond mae’r perfformiadau a pethau mae’r bechgyn yn gwneud yn dda.
“Mae angen bach o momentwm nawr, a gobeithio mai’r buddugoliaeth dros Newcastle yw cychwyn hynny.
“Ni’n canolbwyntio ar ein gêm ni ar hyn o bryd, a mae’n bwysig ein bod ni’n edrych ar ôl ty ein hunain er mwyn gweld beth allwn ni wella.
“Ni am droi lan wythnos yma yn gwybod fod gan Stade dîm cryf a lot o chwaraewyr dda.
“Fel pob tîm yn y gystadleuaeth yma, mae’n bwysig bod ni’n chwarae a perfformio yn dda, a gobeithio bydd y canlyniad yn dilyn.”
Cafodd Williams ei alw yn ôl i garfan Cymru dros yr hydref, a hynny am y tro cyntaf mewn pedair blynedd.
Fe wnaeth argraff wrth ychwanegu dri cap i’w enw, a mae’n mwynhau’r gystadaleuaeth am y crys rhif naw gyda’i glwb a’i wlad.
“Nes i fwynhau e yn bersonol, a roedd hi’n braf i fod yn ôl yn y garfan,” ychwanegodd Williams.
“Roedd hi’n siomedig i beidio cael rhai i’r canlyniadau ond roedd elfennau o’r perfformiad yn dda a gobeithio gallwn ni adeiladu o hynny nawr.
“Mae lot o gystadleuaeth am safle’r mewnwr gyda’r Gleision a Chymru.
“Mae Tomos a finnau yn gweithio yn galed trwy’r wythnos. Mae’n frwydr dda ac yn un mae’r dda ohonom ni’n fwynhau.
“Gobeithio gall y safonnau yna barhau.”