Talodd Lloyd Williams deyrnged i waith y pac yn dilyn buddugoliaeth Caerdydd dros Zebre nos Wener.
Cafodd y mewnwr ei enwi fel Seren y Gêm wrth i’w dîm sicrhau’r pum pwynt llawn yn Parma.
Ond, gyda Liam Belcher a James Botham yn cyfrannu tair allan o’r pedair cais ar y noson, roedd Williams yn llawn canmoliaeth i’r blaenwyr, wrth i Gaerdydd seilio pwyntiau pwysig yn y gynghrair.
“Roedd y pac yn bwysig iawn. Chwarae teg, pan o’n ni mewn safle i allu manteisio ar y tiriogaeth, roedd y pac yn hynod o gryf yn y sgarmes,” esboniodd Williams.
“O’n ni wedi ymdopi gyda pwer Zebre hefyd. Ni’n bles iawn i gael y canlyniad. I fod yn onest, nid oedd hi’r perfformiad gorau o’r tymor ond mae dod i’r Eidal ac ennill gyda pum pwynt yn rhywbeth pwysig iawn i ni.
“Gan symud ymlaen i ddiwedd y tymor, gobeithio bydd hynny’n rhoi ni mewn lle cryf erbyn y rowndiau terfynol.
“Mae gemau yn ystod y tymor y dyliem ni wedi cael mwy o bwyntiau ynddyn nhw, felly mae’r gemau olaf hyn yn bwysig iawn oherwydd hynny.
“Ni’n cymryd pob gêm ar y tro a mae’n rhaid cael rhywbeth mas o pob un.
“Mae hynny’n dechrau gyda’r perfformiad a bydd pethau fel pwyntiau yn dilyn.”
Y dasg nesaf i dîm Dai Young yw croesawu Sale Sharks i’r brifddinas ar gyfer Rownd yr 16 Olaf yng Nghwpan Her Ewrop.
Dyma’r tro cyntaf ers 2018 i Barc yr Arfau gynnal gêm Ewropeaidd o’r fath, a mae Williams yn gobeithio y bydd hi’n achlysur arall i’w chofio.
“Mae penwythnos nesaf yn gêm enfawr i ni fel rhanbarth. Unrhyw dro chi’n cyrraedd y rowndiau cyn-derfynol yn Ewrop, mae’r dorf a’r ddinas yn codi lan,” meddai’r mewnwr rhyngwladol.
“Gobeithio dydd Sadwrn bydd dim byd yn wahanol unwaith eto.”