Blog Banner

Williams yn talu teyrnged i'r pac yn dilyn buddugoliaeth dros Zebre

Cymraeg | 27th March 2023


Talodd Lloyd Williams deyrnged i waith y pac yn dilyn buddugoliaeth Caerdydd dros Zebre nos Wener.

Cafodd y mewnwr ei enwi fel Seren y Gêm wrth i’w dîm sicrhau’r pum pwynt llawn yn Parma.

Ond, gyda Liam Belcher a James Botham yn cyfrannu tair allan o’r pedair cais ar y noson, roedd Williams yn llawn canmoliaeth i’r blaenwyr, wrth i Gaerdydd seilio pwyntiau pwysig yn y gynghrair.

“Roedd y pac yn bwysig iawn. Chwarae teg, pan o’n ni mewn safle i allu manteisio ar y tiriogaeth, roedd y pac yn hynod o gryf yn y sgarmes,” esboniodd Williams.

“O’n ni wedi ymdopi gyda pwer Zebre hefyd. Ni’n bles iawn i gael y canlyniad. I fod yn onest, nid oedd hi’r perfformiad gorau o’r tymor ond mae dod i’r Eidal ac ennill gyda pum pwynt yn rhywbeth pwysig iawn i ni.

“Gan symud ymlaen i ddiwedd y tymor, gobeithio bydd hynny’n rhoi ni mewn lle cryf erbyn y rowndiau terfynol.

“Mae gemau yn ystod y tymor y dyliem ni wedi cael mwy o bwyntiau ynddyn nhw, felly mae’r gemau olaf hyn yn bwysig iawn oherwydd hynny.

“Ni’n cymryd pob gêm ar y tro a mae’n rhaid cael rhywbeth mas o pob un.

“Mae hynny’n dechrau gyda’r perfformiad a bydd pethau fel pwyntiau yn dilyn.”

Y dasg nesaf i dîm Dai Young yw croesawu Sale Sharks i’r brifddinas ar gyfer Rownd yr 16 Olaf yng Nghwpan Her Ewrop.

Dyma’r tro cyntaf ers 2018 i Barc yr Arfau gynnal gêm Ewropeaidd o’r fath, a mae Williams yn gobeithio y bydd hi’n achlysur arall i’w chofio.

“Mae penwythnos nesaf yn gêm enfawr i ni fel rhanbarth. Unrhyw dro chi’n cyrraedd y rowndiau cyn-derfynol yn Ewrop, mae’r dorf a’r ddinas yn codi lan,” meddai’r mewnwr rhyngwladol.

“Gobeithio dydd Sadwrn bydd dim byd yn wahanol unwaith eto.”

Bydd Caerdydd yn herio Sale Sharks yng Nghwpan Her Ewrop dydd Sadwrn yma. Mae tocynnau nawr ar gael, cliciwch ar y linc YMA i archebu.