Blog Banner

Williams yn canolbwyntio'n llwyr ar y dasg o'i flaen

Cymraeg | 17th February 2023


Er fod Lloyd Williams yn paratoi i ysgrifennu pennod newydd yn hanes Rygbi Caerdydd brynhawn Sadwrn, mae'r mewnwr yn mynnu ei fod yn canolbwyntio'n llawn ar y dasg o'i flaen yn erbyn Benetton (CG 5.15yh).

Mae ymddangosiad rhif 256 dros y clwb yn ddigon i guro record Taufa'ao Filise yn yr oes broffesiynnol.

A thra fod Williams yn cyfaddef ei bod hi'n fraint i dorri'r record, mae'n gobeithio y bydd cyfle i ddathlu gyda buddugoliaeth ar ôl y gêm.

"Roedd hi'n grêt i gyrraedd 250 o gemau ym mis Rhagfyr. O'n i'n falch iawn gyda hynny," meddai'r mewnwr rhyngwladol.

"Ond fi'n cofio dod trwy'r system a chwarae gyda rhywun fel Fa'ao yn ystod y blynyddoedd hynny. Roedd e'n rhywun o'n i'n barchu fel chwaraewr gwych a person gwych.

"Felly mae pasio record Fa'ao yn fraint, ond fy ngobaith i'n fwy na dim yw i ennill brynhawn Sadwrn a wedyn gallai edrych ar ddathlu'r llwyddiant gyda fy nheulu.

"Fi'n gwybod bydd y teulu yn falch, ond mae hi'n anodd i fi fwynhau'r foment tan fod y gêm ar ben ac ein bod ni wedi sicrhau canlyniad i'r tîm a'r cefnogwyr."

Gyda thîm Dai Young yn paratoi i ddychwelyd i'r maes ar ôl tair wythnos heb chwarae, mae'r mewnwr yn gobeithio y bydd gwaith caled ar y cae ymarfer yn trosglwyddo i'r chwarae brynhawn Sadwrn.

“Mae’r tabl eleni yn dangos pa mor gryf mae Benetton, a mae nhw wedi gorffen uwch ein pen ni dros y tair blynedd diwethaf," esboniai Williams.

"Mae nhw’n dîm cryfach trwy’r garfan a mae nhw wedi dangos hynny tymor yma hyd yn hyn.

"Mae’r gêm penwythnos yma yn un hynod o bwysig i ni fel chwaraewyr ac fel tîm.

"Ni wedi gweithio’n galed dros y pythefnos diwethaf a gobeithio gallwn ni drosglwyddo hynny o ymarfer i mewn i’r gêm ddydd Sadwrn.

"Dyw’r mis diwethaf ddim wedi bod cystal ag o’n ni moen. Ni wedi cwympo yn y tabl, sydd yn anffodus.

"Felly mae’r gêm yma yn un hynod bwysig i ni fel tîm, a hynny mewn cyfnod pwysig o’r tymor.

"Mae pawb yn edrych ymlaen at ddydd Sadwrn i gael chwarae gartref o flaen y dorf, a cheisio ennill y gêm yma.

"Gobeithio byddai hynny’n rhoi siawns i ni wthio ymlaen ar gyfer gweddill y tymor."