Blog Banner

Williams - Newcastle yn gyfle i adeiladu ar y fuddugoliaeth dros Brive

Cymraeg | 13th December 2022


Mae Teddy Williams yn benderfynol o adeiladu ar y fuddugoliaeth dros Brive ar benwythnos agoriadol y Cwpan Her, wrth i Gaerdydd deithio i Newcastle ddydd Sadwrn.

Roedd y clo ifanc ar y sgor-fwrdd yn erbyn y Ffrancwyr, gyda clwb y brifddinas yn sicrhau buddugoliaeth o 41 pwynt i 0.

Gyda pum pwynt ar y bwrdd i gychwyn eu ymgyrch Ewropeaidd, mae’r cyn-ddisgybl Glantaf yn disgwyl sialens wahanol yng ngogledd Lloegr, ond mae’n credu y gall ei dîm gario momentwm i’r ornest ar Barc Kingston. 

“Roedd hi’n fuddugoliaeth dda i ni, a roedd hi’n wych i gael y pwynt bonws,” meddai Williams.

“Mae’n rhoi ni mewn lle da i ddechrau’r gystadleuaeth yma.

“Wrth gwrs roedd pethau oedd ddim yn berffaith i ni, a byddwn ni’n edrych i wella hynny. Stwff fel y llinellau, o’n ni wedi colli eithaf tipyn. Fi yw’r person fydd yn edrych dros hynny.

“Ond o ran y canlyniad, mae cael pum pwynt yn y tabl yn berffaith. 

“Mae Newcastle yn chwarae mewn ffordd ychydig bach yn wahanol, ond yn sicr byddwn ni’n edrych i chwarae gêm ni yn erbyn unrhyw dîm.

“Roedd y gemau mas yn De Affrica yn paratoi ni’n dda ar gyfer unrhyw dîm. Mae hi wastad yn anodd mynd allan yno, a mae nhw’n sialens mor anodd a ni’n mynd i gael.

“Gawn ni edrych ar Newcastle wythnos yma. Yn amlwg mae’n le anodd i fynd ond ni wastad yn edrych i chwarae gêm ni. Ni eisiau cario’r momentwm ymlaen gyda buddugoliaeth arall.”