Blog Banner

Turnbull yn galw ar Gaerdydd i adeiladu ar y fuddugoliaeth dros Scarlets

Cymraeg | 9th October 2022


Mae Josh Turnbull wedi galw ar Gaerdydd i adeiladu ar eu buddugoliaeth dros y Scarlets nos Sadwrn.

Roedd cais Tomos Williams a throed Jarrod Evans yn ddigon i Gaerdydd adael Llanelli gyda pedair pwynt, wrth i dîm Dai Young ymateb ar ôl colli i Glasgow a’r Emirates Lions yn y pythefnos diwethaf.

A nawr mae’r capten eisiau iddyn nhw barhau gyda'r momentwm wrth iddyn nhw groesawu eu gelynion, CR Dreigiau, i Barc yr Arfau wythnos nesaf.

“Roedd yr ymateb i'r wythnos diwethaf yn wych. Dyna beth o'n ni eisiau yn enwedig ar ôl beth sydd wedi digwydd ar ac oddi-ar y cae wythnos hyn,” meddai Turnbull, gafodd ei enwi yn Seren y Gêm ym Mharc y Scarlets.

“O’n ni eisiau profi pwynt ein bod ni’n gallu chwarae ond beth sydd yn bwysig nawr yw gwneud e wythnos nesaf hefyd.

“Roedd mwy o bwynt i'w brofi ar ôl i'r Scarlets ennill y ddwy gêm tymor diwethaf yn eithaf hawdd.

“Felly oedd e'n bwysig i ni brofi pwynt ein bod ni'n gallu chwarae ein gêm ni ac ennill y gemau darbi.

“Oedd cynllun gyda ni os o’n ni am fynd lawr i 14 dyn, ac o’n i eisiau cadw nhw mas.

“Os o’n ni’n gallu ennill y set amddiffynol, o’n ni am ennill y gêm. Fe wnaethom ni jobyn dda ar gadw nhw mas.

“Mae’n ganlyniad enfawr i ni. Bod yn gorfforol sydd yn ennill y gemau darbi, ac o’n ni wedi troi fyny gyda hynny heno i stopio nhw rhag chwarae.

“Nawr mae’n rhaid cael y cysondeb ‘na trwy’r tymor a mae’n rhywbeth ni wedi siarad amdano dros yr Haf. 

“O’n ni wedi gwneud job dda yn erbyn Munster ar ddechrau’r tymor, ond roedd hi’n anodd i ennill y ddwy gêm ar ôl hynny. Mae cyfle nawr gyda ni i symud ymlaen wythnos nesaf yn erbyn Dreigiau.”

Mae tocynnau ar gyfer yr ornest rhwng Caerdydd a CR Dreigiau ar werth nawr! Cliciwch YMA i archebu!