Blog Banner

Turnbull yn ffyddiog yn chwaraewyr ifanc y garfan

Cymraeg | 16th November 2020


Mae Josh Turnbull yn ffyddiog y gall chwaraewyr ifanc Gleision Caerdydd gamu lan wrth i dîm John Mulvihill geisio ymateb ar ôl colli eu tair gêm ddiwethaf.

Benetton yw’r gwrthwynebwyr yn Rodney Parade nes ymlaen heno, gyda’r Eidalwyr yn dychwelyd i chwarae wedi pythefnos heb gêm yn dilyn achosion o Covid.

Mae’r blaenwr rhyngwladol yn disgwyl sialens galed yn erbyn dynion Kieran Crowley, ond mae’n datgelu fod Gleision Caerdydd wedi canolbwyntio ar gêm eu hunain cyn yr ornest.

“Bydd hi ddim yn hawdd achos chi ddim yn gwybod beth mae Benetton yn mynd i ddod i’r gêm,” meddai Turnbull.

“Mae nhw’n gallu taflu’r bêl o gwmpas ond mae nhw hefyd yn gallu defnyddio sgrym fawr, leiniau symudol a mae nhw’n dîm anodd i chwarae yn erbyn.

“Ni wedi colli yn erbyn nhw cwpwl o weithiau o’r blaen ond ni angen becso am ein hunain wythnos yma a beth ni’n gallu gwneud. 

“Os ni’n chwarae fel ni’n gallu gwneud byddwn ni’n gallu sgorio cwpwl o ceisiau da a gobeithio ennill y gêm.

“Mae digon o bois ‘ma sydd yn gallu rhannu’r gwaith o arwain, nid dim ond fi. Mae digon o bois yma sydd gyda lot o brofiad nawr.

“Dyna beth sydd yn dda am y grwp yma. Mae lot o bois ifanc yma, ond mae lot ohonyn nhw wedi chwarae dros 50 o gemau i’r rhanbarth.

“Mae Garyn Smith yn chwarae ei 100fed gêm ac Owen Lane yn taro 50 o gemau wythnos hyn felly mae lot o’r bois ifanc yn cael y profiad ‘na.

“Mae lot o bois nawr yn gallu sefyll lan.”

Wrth adlewyrchu ar y gemau diwethaf, mae Turnbull yn credu fod rhaid i’w dîm ddechrau adeiladu pwysau ar amddiffyn y gwrthwynebwyr, ac er mwyn gwneud hynny mae’n rhaid gwarchod y meddiant.

“Ni ddim wedi bod yn rhoi digon o pwysau ar y gwrthwynebwyr. Pan ni’n mynd trwy’r cymalau, dyna pryd ni’n gweld bois fel Jarrod Evans, Owen Lane a Rey Lee-Lo yn creu problemau i’r tîm arall.

“Ond ar y foment ni’n colli’r bêl yn rhy gynnar ac felly yn methu adeiladu’r pwysau ‘na.

“Mae angen i ni wneud pethau yn fwy syml i ni’n hunain, a gwneud hi’n hawdd i sut ni eisiau chwarae’r gêm yn enwedig yn hanner y gwrthwynebwyr.

“Yn erbyn Caeredin wythnos diwethaf, o’n ni’n colli’r bêl yn rhy aml yn 22 nhw, a felly ni ddim yn rhoi pwysau arnyn nhw i ildio cic cosb neu i ni greu lle i groesi am gais.

“Dyna un o’r negeseuon daeth mas o’r cyfarfod wythnos yma. Ni wedi cael wythnos gwych yn gweithio yn galed ar y cae ymarfer, a mae’r bois i gyd ar yr un dudalen.”