Blog Banner

Taith i Fryste yn gyfle i ni fontio'r bwlch rhwng gemau'r gynghrair - Llewellyn

Cymraeg | 9th November 2022


Mae Max Llewellyn yn credu fod yr ornest yn erbyn Bristol Bears nos Wener yn gyfle perffaith i Gaerdydd fontio’r bwlch rhwng gemau’r gynghrair.

Pan fydd Caerdydd yn rhedeg mas yn erbyn Cell C Sharks yn Durban ar ddiwedd y mis, bydd pedair wythnos wedi mynd heibio ers iddynt wynebu Caeredin ar Barc yr Arfau.

Ond mae taith i Ashton Gate yn wynebu tîm Dai Young nos Wener yma, a chyfle i groesawu’r clwb o Loegr i’r brifddinas mewn amgylchiadau tebyg ym mis Chwefror.

Mae Llewellyn yn dweud fod yr ornest yn gyfle i Gaerdydd barhau â’r momentwm yn dilyn bloc agoriadol Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT.

“Mae gyda ni lot o amser bant nawr, a mae cael gêm i mewn yn y cyfnod yna yn dda i ni fel tîm,” meddai’r canolwr ifanc.

“Mae’n helpu i ni gario’r momentwm oedd gyda ni yn lle cael cwpwl o wythnosau bant heb wneud unrhyw beth.

“Fel arfer ni ddim yn cael cyfle i chwarae gemau fel hyn, felly mae’n neis i allu gwneud hynny.

“Dyw Bryste ddim yn bell o fan hyn, felly mae hi dipyn bach fel gêm ddarbi. Felly mae pawb yn edrych ymlaen a mae’n dda i gael y gêm.

“Y peth olaf chi moen pan chi’n mynd i De Affrica yw cyrraedd heb chwarae ers pedair wythnos.

“Felly bydd y gêm yma yn help i roi ni mewn lle gwell i berfformio fel ni moen.

“O ni wedi cael rhediad da yn ystod y bloc cyntaf, a gobeithio gallwn ni gario hynny ymlaen. Mae hyder yn tyfu gyda pob gêm felly ni eisiau cario ymlaen.

“Mae nifer o fois ifanc gyda ni yn y garfan, a mae lot o dalent ‘na. Felly dros y blynyddoedd nesaf bydd y talent yna yn dod i mewn mwy a mwy, a mae hi’n grêt i chwarae gyda nhw.”

Yn ymuno â Llewellyn yng nghanol y cae i Gaerdydd nos Wener mae Mason Grady - cyn ddisgybl arall o Ysgol Glantaf - tra bydd Ioan Lloyd yn gwisgo’r crys rhif 10 i’r tîm cartref.

A mae Llewellyn yn edrych ymlaen am y cyfle i wynebu wynebu cyfarwydd yn Ashton Gate.

“Mae Ioan yn classy ac yn gyn-ddisgybl yn Glantaf, fel fi. Mae hi wastad yn dda i chwarae yn erbyn cyn-ddisgybl arall a fi’n siwr y bydd e’n rhoi gêm dda i ni,” ychwanegai Llewellyn.

“Ni gyd yn falch o hanes Glantaf a faint o bobl sydd wedi dod trwy’r system. Fi’n credu fod e lawr i’r agwedd sydd gyda nhw at rygbi.

“Mae e gyd am gadw’r bêl, gwella sgiliau a gwella sut mae nhw’n chwarae.

“Mae hynny’n trosglwyddo yn dda i’r lefel nesaf, achos mae pawb sydd yn dod o’r ysgol gyda sgiliau da ac yn gallu chwarae’r gêm o rygbi.”