Mae Dillon Lewis yn credu fod gornest Gleision Caerdydd yn erbyn Stade Francais dydd Sul yn ffordd berffaith i baratoi tuag at gemau darbi y Nadolig.
Ar ôl trechu Newcastle yng ngêm agoriadol Cwpan Her Ewrop wythnos diwethaf, bydd tîm John Mulvihill yn croesawu’r gwyr o Baris i Gasnewydd dydd Sul.
Mae’r prop rhyngwladol yn edrych ymlaen i brofi ei hun yn erbyn pac corfforol Stade Francais, a mae’n credu y gallu buddugoliaeth roi hyder a momentwm i’w ranbarth cartref.
“Mae nifer o fois wedi dod yn ôl i mewn i’r tîm nawr,” meddai Lewis.
“Oedd mynd mas i Newcastle yn gêm anodd, ond mae’r bois yn gallu cymryd llawer o hyder ar ôl chwarae’n dda a mae pawb yn edrych ymlaen nawr i wynebu Stade ar y penwythnos.
“Bydd hi’n siawns i ddatblygu mwy o momentwm cyn mynd i mewn i’r gemau darbi dros y Nadolig.
“Mae ganddyn nhw pac mawr, felly fel blaenwyr gallwn ni ddisgwyl sgrym a leiniau dda.
“Ond tu allan i hynny, mae ganddyn nhw gefnwyr da sydd yn hoffi chwarae a taflu’r bêl o gwmpas, felly wrth amddiffyn bydd rhaid i ni gamu lan.
“Mae’n siawns da i ni ddatblygu a trio ennill y gêm. Byddai hynny’n dod a hyder i ni. Mae’n gêm dda i baratoi ar gyfer y gemau darbi dros y Nadolig.
“I fi, bydd y cyfnod yma am canolbwyntio ar fy swydd i, a bydd y sgrymiau yn dod gyntaf.
“Fel tîm ni wedi cael wythnos ychydig yn wahanol o ymarfer, ond ni wedi ymarfer yn dda. Mae’r bois yn gwybod beth sydd rhaid gwneud a ni gyd yn edrych ymlaen at y gêm.”