Blog Banner

Rhaid symud ymlaen o Munster meddai Turnbull

Cymraeg | 6th April 2019


Gyda gêm enfawr yn erbyn Connacht wythnos nesaf, mae Josh Turnbull yn dweud ei fod hi’n bwysig fod Gleision Caerdydd yn symud ymlaen ar ôl iddynt golli o 45 pwynt i 21 yn erbyn Munster nos Wener.

Dim ond dwy gêm sydd yn weddill yn nhymor y Guinness PRO14, gyda tîm John Mulvihill i wynebu eu gelynion yn y ras am y trydydd safle - Connacht a’r Gweilch.

Mae’r blaenwr rhyngwladol yn cyfaddef fod rhaid i’w dîm ddysgu o’r ornest yng Nghorc, a mae’n gobeithio am ffafr gan Zebre, wrth i’r Eidalwyr wynebu Connacht nes ymlaen heddiw.

Dywedodd Turnbull: “Oedd e’n anodd yn yr ail hanner a oeddem ni wedi methu cael ein amddiffyn ni i roi ni ar y droed flaen.

“Mae’n rhaid i ni ddysgu gwers o’r gêm heno a symud ymlaen. Mae gêm enfawr gyda ni wythnos nesaf mas yn Connacht.

“Byddwn ni’n dod i mewn dydd Llun er mwyn edrych dros y tapiau a gweld beth ni’n gallu gwneud yn well.

“Roeddem ni’n ymosod yn dda, ond roedd hi’n anodd i ni pan oedd gan Munster y bêl yn yr ail hanner, oherwydd oedde nhw’n creu problemau i ni.

“Pan ni’n ymosod, mae’n rhaid i ni gadw gafael ar y bêl a bod yn well gyda’r meddiant a creu mwy o broblemau i’r tîm arall.

“Mae John wedi dweud wythnos hyn bod rhaid i ni ennill dau gêm mas o dri a ni’n teimlo bod cyfle gyda ni yn Galway wythnos nesaf.

“Ni wedi curo Connacht unwaith yn barod tymor yma, a mae cyfle gwych gyda ni mas yna ond bydd rhaid i’r tîm troi lan a perfformio am yr 80 munud.

“Gall Zebre greu problemau i Connacht, a mae nhw wedi gwneud hynny i ni tymor hyn, a mae nhw’n adeiladu tîm cryf felly gawn ni weld beth mae nhw’n gallu gwneud dydd Sadwrn.”