Blog Banner

Rees yn herio Caerdydd i gynnal lefel eu perfformiad yn erbyn Harlequins

Cymraeg | 15th December 2021


Mae Gruff Rees wedi herio ei dîm i gynnal eu perfformiadau yng Nghwpan y Pencampwyr, wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Harlequins ddydd Sadwrn.

Er fod 42 o chwaraewyr yn absennol, fe aeth clwb y brifddinas ben-ben â pencampwyr Ewrop, Toulouse, wythnos diwethaf.

Ac er fod y Ffrancwyr wedi profi’n rhy gryf ar y diwrnod, roedd digon o resymau i’r torf o dros ddeg mil i fod yn bositif.

Ond, gyda sialens arall yn erbyn pencampwyr Lloegr ar y gweill, mae Rees yn gobeithio gweld ei dîm yn wynebu’r sialens gyda’r un brwdfrydedd.

Esboniodd rheolwr yr academi: “Y meddylfryd yw i geisio cefnogi beth o’n ni wedi gwneud yn dda bant o’r cae ac yn y perfformiad dydd Sadwrn.

“Mae’n haws i ddweud na gwneud, yn sicr ar ôl edrych ar yr ystadegau rhedeg.

“Mewn gêm arferol mae’n ddigon anodd i ailadrodd hynny, ond i wneud e gyda grwp di-brofiad yn y gêm broffesiynol mae’n anoddach byth.

“Ni wedi ceisio addasu’r wythnos o ran amser ar y cae a efallai bod yn fwy siarp o ran y gwaith bant o’r cae.

“Ni’n ceisio creu y meddylfryd fel ein bod ni’n ffresh a heini yn mynd i mewn i’r gêm. Ond ni hefyd yn gwybod efallai y bydd hi’n anoddach byth heb yr hwb o gael gêm gartref yn erbyn pencampwyr Ewrop.

“Ond ni am geisio bod yn positif wrth fynd draw i Loegr i wynebu y tîm gorau o’u cynghrair nhw hefyd.”

Mae Rees hefyd yn ymwybodol o gryfderau Harlequins, sydd wedi cael clôd am eu rygbi ymosodol dros y blynyddoedd diwethaf: “Byddwn ni’n addasu cwpwl o negeseuon ond ar y cyfan ni eisiau chwarae yn yr un modd, sef rygbi positif.

“Ni’n gwybod fod nhw’n ceisio gwneud hynny hefyd trwy Danny Care a Marcus Smith.

“Bydd rhaid ni geisio rhoi’r un pwysau ag o’n ni wedi rhoi ar Ntamack ar cefnwyr Harlequins hefyd.

“Mae lot o ffydd yn y cymeriadau ar y cae hefyd a mae lot o fois rhyngwladol, profiadol sydd wedi gwneud e yn y gorffennol.

“Er bydd y bois ifanc yn flinedig yn gorfforol, mae nhw’n positif i fynd amdani eto. Mae nhw wedi cael blas nawr ac eisiau mynd ati unwaith eto.”