Blog Banner

Pac yn allweddol i'r fuddugoliaeth yn Treviso - Williams

Cymraeg | 3rd December 2019


Roedd gwaith caled y pac yn allweddol i fuddugoliaeth Gleision Caerdydd yn erbyn Benetton Rygbi, meddai Lloyd Williams.

Cais hwyr Jason Harries oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm, wrth i ddynion John Mulvihill sicrhau pwyntiau llawn yn Yr Eidal.

Daeth tri o geisiau’r Gleision o ddarnau gosod cryf, gan gynnwys cais i’r mewnwr Williams, oedd yn dathlu ei benblwydd yn 30 mlwydd oed.

Roedd y capten yn hapus i weld perfformiad cyflawn gan y garfan, a mae’n credu fod effaith y fainc wedi cyfrannu i’r canlyniad.

“Ni'n bles iawn gyda’r canlyniad a sut aeth y gêm,” meddai Williams.

“Yn fwy nag unrhyw beth roedd y bechgyn wedi perfformio yn dda am yr 80 munud, a mae’n holl bwysig i ni os ni moen ennill gemau yn y gynghrair blwyddyn yma.

“Mae Benetton yn dîm da, a mae nhw wedi dangos hynny yn y gynghrair dros y cwpwl o flynyddoedd diwethaf.

“Yn fan hyn blwyddyn diwethaf, fe wnaeth Benetton ennill y gêm yn y munudau olaf felly roedd hi’n neis i gael y canlyniad yn disgyn i’n ffordd ni eleni.

“Fe wnaeth y blaenwyr chwarae yn hynod o dda a roedd y fainc wedi gwneud swydd gwych i orffen y gêm bant gyda gymaint o tempo.

“Pan oedd y bechgyn yn mynd trwy’r cymalau yn y 22 ar y diwedd, oeddwn i’n teimlo yn hyderus. Pan roeddem ni’n rhoi tri neu bedwar cymal at eu gilydd, roeddem ni’n edrych yn beryglus.

“O ni’n bles iawn i weld Jason yn croesi ond o ni’n hyderus wrth edrych o ochr y cae.

“Mae’n rhyddhad i’r garfan bod ni’n dangos ni’n gallu ennill gemau i ffwrdd yn y ffordd ‘na ac yn erbyn tîm fel Treviso.

“Fi’n troi’n 28 heddiw, felly bles iawn! Chwarae teg, fe wnaeth Kirby rhoi fi mewn am cais a fi’n siwr byddai mam a dad yn hapus iawn gartref!”

Mae Gleision Caerdydd yn dychwelyd i’r Cwpan Her wythnos yma, gyda tîm Paul Tito, Pau, yn ymweld â Parc yr Arfau.

Mae Williams yn adnabod pwysigrwydd yr ornest, wrth i’w dîm geisio ymateb i’r golled yn erbyn Leicester Tigers yn y rownd diwethaf.

“Mae Ewrop yn bwysig iawn i ni,” meddai’r mewnwr rhyngwladol.

“Doedd y gêm diwethaf yn erbyn Leicester ddim wedi mynd i’n ffordd ni, ond dyna rygbi ar diwedd y dydd.

“Mae dau gêm enfawr yn dod lan yn erbyn Pau a wedyn ni’n mynd mewn i cyfnod y Nadolig sydd yn holl bwysig yn erbyn y rhanbarthau eraill.

“Mae mis galed o’n blaenau ni ond ni’n bles i ennill a chreu momentwm i gymryd i mewn i’r misoedd nesaf.”