Blog Banner

O Durban i Doha - dwbl y balchder i'r teulu Cabango

Cymraeg | 18th November 2022


Bydd y cwpwl o wythnosau nesaf yn gyffrous i’r teulu Cabango, wrth i’r brodyr Theo a Ben deithio i Durban a Doha, er mwyn cystadlu ar y lefel uchaf mewn dwy gamp wahanol.

Bydd asgellwr Rygbi Caerdydd yn hedfan i Dde Affrica wythnos nesaf wrth i’r clwb baratoi i wynebu’r Cell C Sharks a Vodacom Bulls ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig BKT.

Ar y llaw arall, mae ei frawd Ben bellach wedi cyrraedd Doha fel rhan o garfan pel-droed Cymru, sydd yn cymryd rhan yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Ac er fod Theo yn cyfaddef y bydd hi’n rhyfedd gwylio’r gemau o Dde Affrica, mae’n falch iawn o lwyddiant ei frawd.

“Fi’n rili edrych ymlaen at Gwpan y Byd. Yn amlwg fi ychydig bach yn drist mod i methu mynd draw ‘na i wylio, ond bydd rhieni fi’n mynd mas i wylio a cefnogi,” meddai’r cyn ddisgybl Plasmawr a Glantaf.

“Yn anffodus, gwylio yn y gwesty bydda i gyda’r bois, a fi’n siwr bydd lot ohonyn nhw eisiau gwylio hefyd.

“Byddai’n tecstio a ffonio Ben i ddweud pob lwc a pa mor prowd ydw i. Fi’n edrych ymlaen i weld e’n chwarae.

“Roedd y teulu i gyd yn gwylio’r cyhoeddiad ar y teledu. Roedd mam yn sgrechian, a fi a dad yn rili prowd ohono fe. Nes i roi tecst iddo fe, a oedd e’n gwenu lot pan wnath e glywed ei enw.

“Felly ie, fi’n edrych ymlaen ac yn hapus drosto fe, a bydd e’n amazing gweld e yn Cwpan y Byd cyntaf Cymru ers lot o flynyddoedd. Mae’n gam mawr yn ei yrfa.

“Fi ddim wastad yn gweld e’n chwarae, ond pam fi yn mae e wastad yn sbesial. 

“Weithiau mae’r ddau ohonom ni’n chwarae ar yr un dydd, felly mae e bach yn anodd. 

“Nath e symud mas o’r ty pan yn ifanc er mwyn symud i Abertawe, a mae e wastad yn neis i weld e a cael chat ar ôl y gêm.

“Mae’n gwneud ni’n fwy agos fel brodyr achos mae’r ddau ohonom ni’n broffesiynol mewn chwaraeon. 

“Fi wedi siarad gyda fe a mae’n dweud fod Qatar yn anhygoel ac yn wahanol, yn sicr i gymharu â Caerdydd - yn enwedig gyda’r tymheredd.

“Ond mae’n edrych ymlaen i chwarae nawr felly gobeithio geith e cwpwl o gemau a pob lwc iddo fe.”

Y tro diwethaf i Gaerdydd ymweld â De Affrica, fe wnaeth Cabango wneud ei ymddangosiad cyntaf yn y gynghrair yn erbyn DHL Stormers yn Cape Town.

Ar ôl cael blas o deithio’r wlad, mae’n edrych ymlaen i ddychwelyd eto eleni, ac yn gobeithio y bydd ei dîm yn barod am yr her sydd o’u blaenau yn Pretoria a Durban.

“Mae pawb yn edrych ymlaen i fynd i Dde Affrica. Pob tro ni’n mynd mas yna ni’n cael gemau caled, ond mae pawb yn edrych ymlaen ar ôl cael bloc cyntaf da,” esboniodd yr asgellwr.

“Ni’n bositif - ni’n chweched yn y tabl, ni mewn lle da a ni’n edrych ymlaen i fynd mas ‘na a cael dwy gêm dda. 

“Yn amlwg gyda Cwpan y Byd yn mynd ymlaen hefyd, fi’n edrych ymlaen i wylio hwna hefyd.

“O’n ni wedi cael dwy gêm dda yn erbyn timau De Affrica. Roedd y Lions ychydig yn wahanol ond yn erbyn y Stormers o’n ni wedi dangos ein cryfder fel carfan.

“Roedd gyda ni gynllun da ac o’n ni wedi cadw at hynny ac ennill yn y diwedd.

“Ond yn sicr mae gyda ni mwy o hyder yn mynd mewn i’r ddwy gêm nesaf ond mae hi wastad yn sialens pan chi’n mynd mas ‘na i chwarae yn erbyn nhw.

“Mae pawb yn rili edrych ymlaen a bydden nhw’n ddwy gêm i wylio mas amdanyn nhw.

“Tro diwethaf yn De Affrica ges i fy debut yn y gynghrair, a bydd hynny yn rhywbeth wnai byth anghofio - bod yn Cape Town, yn y stadiwm yna yn chwarae yn erbyn Stormers, sef un o timau gorau y gynghrair.

“Felly fi’n sicr yn edrych ymlaen i fynd mas ‘na eto.

“Pan nes i ymuno â’r tîm am y tro cyntaf blwyddyn diwethaf, mae nhw gyd yn neis, fi’n gallu siarad gyda pawb a ni gyd yn agos.

“Ond pan chi’n mynd i Dde Affrica, mae’n drip eithaf hir sydd yn rhoi amser i chi bondio gyda bois gwahanol. Chi’n dod i ‘nabod pobol mewn ffordd gwahanol, yn fwy personol.

“Mae’n helpu’r tîm lot a fi’n edrych ymlaen i fynd yn ôl eto eleni.”