Blog Banner

Nunlle gwell na Pharc yr Arfau ar nos Wener meddai'r capten, Turnbull

Cymraeg | 24th September 2021


Does nunlle gwell na Pharc yr Arfau, o dan y goleuadau, ar nos Wener meddai Josh Turnbull.

Bydd y blaenwr rhyngwladol yn arwain ei dîm yn erbyn Connacht nes ymlaen ar gyfer gornest agoriadol tymor Pencampwriaeth Rygbi Unedig.

Mae’r capten yn dweud fod Caerdydd yn barod i drosglwyddo gwaith caled yr Haf i’r gemau cystadleuol wrth iddyn nhw groesawu’r gwyddelod i’r brifddinas.

“Dyna beth chi eisiau - nos Wener ar Barc yr Arfau gyda’r dorf yn ôl,” meddai Turnbull.

“Bydd hi’n foment prowd iawn i redeg y bois mas nos Wener a ni eisiau mynd mas ‘na i ddangos beth ni’n gallu gwneud fel tîm.

“Mae lot o waith caled wedi mynd mewn i hyn dros yr Haf a nawr ni’n barod i fynd mas i chwarae’r gemau.

“Mae cyfnod da yn dod lan i ni gyda pedair o’r pump gêm gyntaf yn cael eu chwarae gartref.

“Os ni’n gallu ennill gemau yn gynnar, bydd e’n rhoi ni mewn safle da ar gyfer gweddill y tymor.

“Ni eisiau dechrau yn dda nos Wener a defnyddio hyder o hynny ar gyfer y gemau nesaf.

“Pob tro ni’n chwarae yn erbyn Connacht, mae nhw’n gemau anodd iawn. 

“Felly ni angen dechrau yn gryf a gobeithio gallwn ni gael momentwm ar gyfer gweddill y tymor.

“Pan mae timau fel Connacht yn dod draw fan hyn, mae nhw’n gwneud y gemau yn anodd ond mae digon o hyder yn y tîm ar y foment a ni eisiau mynd mas i chwarae’r hyn ni wedi gweithio arno dros yr Haf.”