Blog Banner

Llewellyn yn paratoi am ddiweddglo chwerw-felys i'w gyfnod gyda Caerdydd

Cymraeg | 24th March 2023


Mae Max Llewellyn yn dweud y bydd hi’n ddiweddglo chwerw-felys i’r tymor, gyda’r canolwr yn gadael y clwb i ymuno â Chaerloyw ar ddiwedd yr ymgyrch.

Ar ôl gweithio ei ffordd trwy system academi’r clwb, mae Llewellyn wedi sefydlu ei le yng nhgarfan y tîm cyntaf ym Mharc yr Arfau dros y tymor diwethaf.

Ond er ei fod yn edrych ymlaen am y sialens newydd fydd yn ei wynebu yn Kingsholm, mae’r canolwr yn benderfynol o orffen ei gyfnod yng Nghaerdydd ar nodyn uchel.

“Wrth gwrs fy mod yn edrych ymlaen at symud i rywle newydd, ond rwyf hefyd yn drist wrth adael Caerdydd, gan mai yno y ces i fy magu”, meddai’r cyn-ddisgybl o Ysgol Glantaf. 

“Rwyf yn adnabod pawb yn y clwb mor dda erbyn hyn, bydd yn anodd ffarwelio ar ddiwedd y tymor”

“Rwy’n sicr eisiau gorffen ar nodyn uchel. Pan gefais anaf yn gynharach eleni, roeddwn yn poeni fy mod wedi chwarae fy gêm olaf yng nghrys Caerdydd, felly roeddwn yn falch o ddeall y byddwn yn ôl ar gyfer y gemau olaf. 

“Rwy’n canolbwyntio nawr ar wneud yn siwr ein bod yn gorffen y tymor yn gryf, a gadael Caerdydd yn y safle cryfaf posib”. 

Talodd y canolwr deyrnged i gefnogwyr y clwb ac i’r rheini sydd wedi chwarae rôl yn ei yrfa hyd yn hyn, gan ddweud y bydd Caerdydd yn parhau i fod yn agos at ei galon: “Bydd Caerdydd wastad yn agos at fy nghalon, ac yn glwb arbennig i mi. Roeddwn yn dod yma i wylio gemau pan oeddwn i’n ifanc, ond mae bod yma yng nghanol y bobl a’r awyrgylch wedi gwneud i mi sylweddoli pa mor arbennig yw’r clwb a faint rwy’n caru’r lle. A byddaf yn cofio hynny am byth.

“Mae gen i lawer o ffrindiau yma, a Chaerdydd yw adref i mi, felly rwy’n sicr y byddai’n dod yma’n aml, ac yn cadw llygaid ar y canlyniadau.

“Mi hoffwn i ddiolch i bawb am y croeso rwyf wedi ei gael yn y clwb. Ers i mi ddod yma yn fachgen ifanc mae’r cefnogwyr wedi fy nghefnogi, ac rwy’n ddiolchgar am hynny

“Mae pawb wedi deall fy mhenderfyniad i adael, ac mae hynny’n rhywbeth arall rwy’n ddiolchgar amdano

“Roeddwn wastad eisiau chwarae yn Uwch-Gynghrair Lloegr un dydd, ac o gofio’r ansicrwydd o fewn rygbi yng Nghymru ar y funud, allwn i ddim gwrthod y cais gan Gaerloyw. Mae’n rhoi sicrwydd i mi at y dyfodol, ac yn caniatau i fi gario mlaen i wneud yr hyn dwi’n ei garu, sef chwarae rygbi”.