Blog Banner

Lewis yn benderfynol o greu argraff dros ei ranbarth

30th November 2018


Mae Dillon Lewis yn benderfynol o greu argraff yng nghrys Gleision Caerdydd, wrth iddo ddychwelyd o ddyletswydd rhyngwladol.

Chwaraeodd y prop ifanc ei ran yn nhair allan o bedair gêm Cymru yn ystod mis Tachwedd, wrth i dîm Warren Gatland greu hanes drwy orffen Cyfres y Hydref yn ddiguro am y tro cyntaf.

Bydd y prop ar y fainc ar gyfer y gêm PRO14 yn erbyn Ulster yfory, a mae’n ysu i rhoi ei farc ar y tîm hyfforddi, gyda bloc pwysig o gemau ar y gweill.

“Roedd hi’n gyffrous i chwarae yn y gemau dros yr Hydref a roeddwn wedi cael llawer mwy o gyfleuon nag oeddwn yn disgwyl gyda Cymru. Roedd hi’n amser da i fi,” meddai Lewis.

“Roedd hi’n enfawr i mi gael bod yn rhan o’r gemau yn erbyn Awstralia a De Affrica. Roedd hi’n anhygoel ein bod ni wedi creu hanes fel tîm, trwy ennill pedwar mas o pedwar.

“Nes i siarad gyda John [Mulvihill] yn ystod yr wythnos olaf, yn arwain at De Affrica, a roeddwn yn dweud pa mor gyffrous oeddwn i ddod yn ôl i mewn i’r tîm gyda bloc mawr o chwe wythnos ac eisiau chwarae mor aml â posib gyda Gleision Caerdydd.

“Mae Dmitri [Arhip] wedi dod i mewn tymor yma a wedi bod yn grêt hyd yn hyn. Mae Bubba [Scott Andrews] hefyd yma, a mae ef wedi chwarae nifer o weithiau dros Gymru hefyd. 

“Mae hi’n gyfnod cyffrous i fod yn rhan o’r rhanbarth ar hyn o bryd.

“Ond fi’n gwybod, y mwyaf aml fi’n chwarae, y gorau byddai’n perfformio. Mae’n neis i gael rhediad o gemau, a fi eisiau cario ymlaen gyda hynny hefyd.

“Ni’n disgwyl bydd gan Ulster pac mawr a chryf, gyda set-piece da hefyd. Ni wedi paratoi ar gyfer hynny ond bydd y tywydd yn ein herbyn yno hefyd.

“Bydd torf da yn Kingspan, fel arfer. Tydw i erioed wedi chwarae yna o’r blaen, felly bydd hi’n brofiad newydd i fi, ond fi’n edrych ymlaen.

“Bydd hi’n gyffrous i wynebu Saracens yn yr wythnosau nesaf, a bydd hi’n gyfle i weld lle ydym ni fel tîm. 

“Ti eisiau chwarae yn erbyn y gorau yn y byd, a ni gyda’r siawns i wneud hynny dros y pythefnos nesaf.”