Blog Banner

Lewis-Hughes yn hyderus gall Gleision Caerdydd gystadlu yng Nghwpan Her Ewrop

Cymraeg | 11th December 2020


Mae Shane Lewis-Hughes yn hyderus y gall Gleision Caerdydd fod yn gystadleuol yng Nghwpan Her Ewrop eleni.

Mi fydd cais Gleision Caerdydd am eu trydydd tlws Ewropeaidd yn cychwyn yn erbyn Newcastle nos Wener.

Ar ôl ennill ei gap rhyngwladol cyntaf dros Gymru yn ystod cyfres yr hydref, mae’r blaen-asgellwr ifanc yn dychwelyd i’r rheng-ôl ar gyfer y daith i Barc Kingston. Mae’r garfan ar gyfer yr ornest yn cynnwys 19 o chwaraewyr sydd wedi dod trwy academi’r rhanbarth.

Mae Lewis-Hughes yn disgwyl gêm galed yn erbyn Newcastle, sydd wedi ennill eu tair gêm agoriadol o’r tymor, ond mae’n mynnu fod y garfan yn canolbwyntio yn llwyr ar y dasg o’u blaenau.

“Mae gyda ni swydd nawr i ddod yn ôl i mewn i’r garfan a chwarae rygbi da dros y Gleision,” meddai’r blaen-asgellwr.

“Ni’n gwybod beth mae’n rhaid i ni wneud ar y penwythnos i chwarae ac ennill y gêm, a ni’n edrych ymlaen i fynd mas ‘na ac adeiladu ein perfformiad pob wythnos.

“Pob tro fi’n chwarae rygbi, os fi’n chwarae i’r Gleision neu yn chwarae i Gymru, fi wastad yn nerfus.

“Fi eisiau bod ar fy ngorau pob wythnos a fel chwaraewyr dyna yw’r sialens.

“Fi’n dod yn ôl o’r camp gyda Cymru gyda hyder ond fi eisiau perfformio nawr i’r Gleision a gwneud y swydd iddyn nhw.

“Mae Newcastle wedi ennill pob gêm tymor yma yn y Premiership a bydd ganddyn nhw llawer o hyder yn mynd mewn i’r gystadleuaeth yma.

“Ni angen gwneud union yr un peth nawr. Ni angen mynd lan ‘na gyda llawer o hyder a ni’n gwybod beth ni’n gallu gwneud fel tîm.

“Ni eisiau mynd mas ar y penwythnos i ennill. Dyna yw’r job. Ni eisiau chwarae rygbi da, perfformio yn dda a gobeithio gallwn ni ennill.

“Gyda’r garfan fan hyn, does dim rheswm pam na allwn ni ennill y gystadleuaeth, ond mae’n rhaid mynd mas ar y penwythnos a perfformio.

“Pan ti’n gwneud hynny, bydd y canlyniad yn edrych ar ôl ei hunain.

“Fel carfan ni eisiau ffocysu ar y gêm pob wythnos a gobeithio y gallwn ni ennill y gemau a gwneud yn dda yn y gystadleuaeth.

“Ni’n disgwyl i ennill pob tro ni’n chwarae, ond ni ddim yn meddwl yn rhy bell ymlaen. Ni’n cymryd hi un gêm ar y tro.”