Blog Banner

Hopkins yn falch o ymdrechion a datblygiad Caerdydd dan-18

Cymraeg | 24th February 2022


Mae Gwennan Hopkins wedi canmol datblygiad Rygbi Caerdydd yn ystod y gystadleuaeth rhanbarthol merched dan-18 yn ddiweddar.

Y chwaraewr rheng-ôl ifanc oedd capten y Duon a’r Gleision yn Ystrad Mynach a Merthyr. Ar ôl ennill dwy, cholli un ac un gêm gyfartal ar y penwythnos agoriadol, curo pedair allan o bedair oedd hanes y tîm ar Y Wern - a hynny heb ildio pwynt.

A thra fod y diwrnod olaf ar Barc yr Arfau wedi ei ganslo o ganlyniad i’r tywydd gwael, roedd Hopkins yn falch o ymdrech y merched wrth iddyn nhw ddangos eu gallu i berfformio fel tîm.

“Yn amlwg o’n ni wedi siomi i beidio gorffen yr ymgyrch ym Mharc yr Arfau. Roedd pawb wedi edrych ymlaen i roi ymdrech olaf yng nghartref y clwb a gobeithio cadw ein lle ar frig y tabl.

“Ond gallwn ni fod yn falch iawn i’r hyn ni wedi gyflawni dros yr wythnosau diwethaf a sut ni wedi cynrychioli bathodyn Rygbi Caerdydd.

“Mae’r ffordd ni wedi dod at ein gilydd fel grwp mewn amser mor fyr yn wych a fi’n credu fod modd gweld hynny yn y perfformiadau.

“Mae wedi rhoi platfform cyffrous i ni adeiladu arno a ni’n edrych ymlaen yn barod am y cyfle i ddod yn ôl at ein gilydd a gwisgo’r crys du a glas unwaith eto.

“Mae’r profiadau hyn yn creu ffrindiau oes a ni’n bositif am yr un gallwn gyflawni yn y dyfodol.

“Ychydig wythnosau yn ôl, nid oedd tîm yn bodoli. Ond roedd y gwaith caled ar y cae ymarfer, gyda help y tîm hyfforddi a Gruff Rees o’r academi, a fi’n teimlo ein bod ni wedi creu argraff ym mhob agwedd o’r gêm.”

Mae’r sylw nawr yn troi at y tîm cenedlaethol, gyda Cymru dan-18 yn barod i ddychwelyd ymhen ychydig wythnosau.

Fe wnaeth y cyn-ddisgybl Ysgol Plasmawr, sydd nawr yn astuio yng Ngholeg Hartpury ar ysgoloriaeth rygbi, gychwyn ei gyrfa gyda Clwb Rygbi Llandaf, cyn symud i ymuno â adran menywod Cwins Caerdydd.

Roedd Hopkins yn falch o gael y cyfle i fod yn gapten ar y tîm a mae hi’n gobeithio fod eu perfformiadau fel tîm yn ddigon i greu argraff ar yr hyfforddwyr cenedlaethol.

“Fi wedi joio’r profiad o fod yn gapten gymaint, ond mae’r merched wedi helpu i wneud e mor rhwydd a phosib,” ychwanegodd y blaenwr.

“Mae e wir yn fraint cael bod yn gapten ar y tîm yma ac arwain y merched. Mae nhw wedi bod yn sbesial a mae pawb yn ysbrydoli ei gilydd.

“Mae dewis rhyngwladol yng nghefn ein meddyliau ni, a ni wedi bod yn sgwrsio am hyn. Ond ni’n gwybod mai’r siawns gorau i gael ein dewis yw trwy chwarae fel tîm.

“Dyna’r ffordd gorau o ddangos beth ni’n gallu gwneud, hyd yn oed fel unigolion yn brwydro am grys Cymru. 

“Ni ar ein gorau pan ni’n gweithio fel tîm, a dyna ni eisiau dangos i’r hyfforddwyr rhyngwladol. 

“Fi wedi gwylio merched fel Megan Webb a Manon Johnes yn chwarae i’r Cwins dros y blynyddoedd a wedyn gwylio nhw’n mynd ymlaen i gynrychioli y tîm cenedlaethol.

“Felly wrth gwrs mae nhw’n ysbrydoli nid yn unig fi ond pawb sydd yn ynghlwm â’r clwb.

“Ni’n gallu edrych lan atyn nhw a mae’n nhw rhoi rhywbeth i chi anelu i’w gyflawni eich hunain. “