Blog Banner

Hat-tric Adams yn rhoi Cymru yn yr wyth olaf

Cymraeg | 9th October 2019


Croesodd Josh Adams am hat-tric wrth i Gymru sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd yn Japan.

Roedd ei ddau gais yn yr hanner cyntaf wedi rhoi tîm Warren Gatland ar y blaen, yn dilyn cychwyn caled gyda Fiji yn mynd 10 pwynt ar y blaen.

Ond fe groesodd y gwyngalch am y trydydd tro yn yr ail hanner, gyda Liam Williams hefyd yn ychwanegu cais i sicrhau y mwyafrif o bwyntiau.

Bydd y grwpiau yn dod i ben penwythnos yma, gyda Cymru yn herio Wrwgwai wrth iddyn nhw geisio seilio eu lle ar frîg y tabl.

Fiji oedd yn rheoli’r munudau agoriadol, gyda Cymru yn darganfod hi’n anodd delio gyda’u cyfuniad o bwer, sgiliau a chyflymder yn y 10 munud cyntaf.

Fe roddodd sgrym cynnar y platfform i’r bêl fynd i’r ochr dywyll, gyda asgellwr Lyon, Josua Tuisova, yn curo dau o amddiffynwyr er mwyn croesi yn y gornel.

Ni lwyddodd Volavola gyda’r trosiad, a roedd hi’n edrych yn debygol fod Cymru wedi ymateb yn syth, ar ôl camgymeriad yng nghanol y cae gan Fiji.

George North oedd y cyntaf i’r meddiant rhydd, a roedd Josh Navidi mewn cymorth i gymryd y bas a chroesi’r gwyngalch. Ond cafodd y cais ei wrthod ar ôl i Hadleigh Parkes daro’r bêl ymlaen cyn y cais.

Roedd yna gais wedi ei wrthod i dîm John McKee hefyd, gyda’r pas i Frank Lomani wedi mynd ymlaen, ond daeth y dyfarnwr yn ôl i gosbi Ken Owens am dacl peryglus, gan ei yrru i’r cell cosb.

Ond, roedd y pwysau yn parhau ar Gymru, gan arwain at gais i Kini Murimurivalu i ddyblu mantais ei dîm.

Roedd hi’n amser i ddynion Gatland gymryd rheolaeth ar y gêm, ac wedi i Tevita Cavubati gael cerdyn melyn, roedd cyfle i Gymru agor eu cyfrif am y noson.

Ar ôl amynedd wrth ymosod, gyrrodd Biggar gic let-draws i’r asgell chwith, gyda Adams yn cuto Volavola yn yr awyr i groesi am ei ail gais o’r gystadleuaeth.

 

Roedd y momentwm gan Gymru, a roedd mwy o giciau cosb yn rhoi mwy o bwysau ar y Fijiaid. 

Roedd Adams o fewn trwch blewyn o croesi’r linell gais am yr ail waith, ond roedd ei droed wedi cyffwrdd yr ystlys, tra fod Semi Kunatani wedi ei yrru i’r ochrau am 10 munud.

O’r diwedd, cafodd y pwysau ei droi yn bwyntiau, wrth i’r cefnwyr ledu’r bêl i’r chwith, a Jonathan Davies yn bwydo Adams, oedd â lle i groesi yn y gornel.

 

Trosiadau Biggar oedd y gwahaniaeth rhwng y timau yn ystod yr egwyl, ond yn fuan wedi’r chwarae ail-gychwyn, roedd Cymru yn ôl i lawr i 14 dyn, gyda James Davies yn derbyn cerdyn melyn.

O’r llinell canlynol, cafodd cais cosb ei wobrwyo i Fiji, gan roi tîm McKee yn ôl ar y blaen.

Roedd y sgôr yn lefel ar ôl cic cosb Rhys Parchell, a llwyddodd Davies ddarganfod gwagle yng nghanol y cae i roi ei dîm ar y troed flaen.

Ar ôl defnyddio ei gryfder i fynd heibio tacl Jale Vatubua, fe ddadlwythodd y bêl i Adams, oedd â digon o waith i orffen yn y gornel a seilio ei hat-tric.

Roedd y pwynt bonws yn y bag ar ôl i Gareth Davies dorri’n rhydd a bwydo Liam Williams, gyda Dillon Lewis a Tomos Williams ymysg yr eilyddion i ddod ymlaen i seilio’r fuddugoliaeth.