Blog Banner

Hanes dwy alwad annisgwyl Nicky Robinson ar Bodlediad diweddaraf Gleision Caerdydd

Cymraeg | 7th July 2020


Ar ail bennod Podlediad Cymraeg Gleision Caerdydd, mae Nicky Robinson wedi hel atgofion o ddwy alwad annisgwyl i’r garfan tîm cyntaf ym Mharc yr Arfau.

Ar ôl pennod cyntaf llwyddiannus yng nghwmni Jamie Roberts, y cyn chwaraewr rhyngwladol, Robinson, yw gestai diweddaraf y cyflwynydd Owain Gruffudd. Mae’r cyn-faswr yn westai hynod ddiddorol, wrth iddo drafod ei yrfa rygbi o chwarae i bump clwb mewn tair gwlad. Mae’r sgwrs hefyd yn mynd i’r byd rasio ceffylau - a thaith Robinson gyda’i geffyl Monbeg Dude - a’r byd pel-droed, yn dilyn buddugoliaeth Lerpwl yn Uwch Gynghrair Lloegr - tîm sydd yn agos at galon Robinson.

Fe wnaeth gyrfa Robinson gychwyn a gorffen gyda clwb ei ddinas cartref, ond mae’n cyfaddef fod ei gyfle cyntaf i chwarae dros Gaerdydd wedi bod yn annisgwyl i ddweud y lleiaf.

“Roedd Neil Jenkins yna, a roedd Iestyn Harris wedi cael ei arwyddo o Leeds, ac o’n i fod yn rhif tri tu ôl i nhw,” meddai Robinson.

“Fe wnaeth Neil Jenkins dorri asgwrn yn ei law tra oedd e gyda’r Llewod yn Awstralia, a oedd Iestyn Harris wedi anafu hefyd.

“O’n i allan yn Awstralia dros yr Haf yn gwylio’r Llewod ac yn chwarae rygbi i Prifysgol Queensland, a roedd Geraint John wedi helpu i sortio fe allan.

“O’n i fod yn fan ‘na am dri mis, ond ar ôl deufis nath e ffonio fi a dweud fod angen i fi ddod yn ôl i Gaerdydd yn gynnar achos oedd rhaid i fi ymarfer gyda’r garfan achos doedd dim maswyr gyda ni. Fi oedd yr unig un!

“O’n i’n 19, a dim ond wedi chwarae 20 munud ar ddiwedd y tymor cynt yn erbyn Caerffili, a oedd rhaid i fi ddod mewn gyda hyfforddwr newydd felly oedd e’n ychydig bach o rabbit in a headlight i dechrau gyrfe fi fel rhywun oedd heb unrhyw syniad o sut i chwarae gêm go iawn a sut i reoli gêm, mynd drwy’r symudiadau a gweiddi ar y blaenwyr.

“Oedd e’n bach yn wahanol i fi ond falle y peth gorau i fi. Nes i ddechrau’r naw gêm cyntaf tan bod Iestyn wedi dod yn ôl i ddechrau gêm yn erbyn Glasgow yn y Cwpan Heineken. 

“Gath e seren y gêm, sgorio dwy neu dair cais ac oedd e’n arbennig, a fi’n cofio meddwl fod pethe’ wedi newid ychydig nawr!

“Ond o’n i’n caru be o’n i’n gwneud. Fy swydd i oedd chwarae rygbi, yn ymarfer pob dydd ac yn rhannu ty gyda Robin Sowden-Taylor a cwpwl o’r bois eraill.

“O’n i’n caru hwna, a fi’n cofio gêm cyntaf fi yn erbyn Connacht. Gêm cyntaf y tymor a o’n i’n edrych ymlaen i chwarae o flaen torf mawr.

“Roedd o’n glwb o’n i’n breuddwydio chwarae i a fi’n cofio gwylio Jiffy a gwylio gemau Caerdydd yn sefyll ar y teras.

“Ond y gêm yn erbyn Connacht, roedd y glaw yn arswyll i lawr ac roedd e’n diwrnod ofnadwy a collon ni o chwe pwynt i dri.

“Roedd Eric Elwood yn chwarae i nhw a roedd e’n gêm enfawr i nhw oherwydd dyna gêm cyntaf nhw yn ôl i mewn i’r cynghrair.

“Ond y diwrnod nesaf o’n i’n David Lloyd’s yn darllen y papur, a roedd e’n dweud ‘The out of depth Robinson’ a ‘The worst game of rugby I’ve ever seen.

“Oedd y breuddwyd wedi cael ei popio a’r realiti wedi dod yn ôl i mewn. Dyna pryd nes i sylwi beth oedd bywyd mewn rygbi proffesiynol.

“Ond fi’n cofio chwarae yn erbyn Castell-Nedd ar y dydd Mercher a colli, ond yn y trydydd gêm yn erbyn Casnewydd gartref, a dyna un o atgofion gorau fi i Gaerdydd oedd y gêm yna. 

“O’n i’n seren-y-gêm, nes i sgorio cais ac o’n i’n chwarae yn erbyn Shane Howarth, oedd yn chwarae fel maswr i Casnewydd. 

“Nes i roi pas da i Matt Allen iddo fe sgorio cais hefyd, ac ar ôl stryglo am y ddwy gêm gyntaf,yn meddwl na ddylia fi chwarae’n fan hyn, nes i ddechrau sylwi mod i yn gallu chwarae ar y lefel ‘ma. Mae’n rhywbeth fi’n gallu gwneud.”

Dros 15 mlynedd yn ddiweddarach - ac yn dilyn gyrfa aeth a Robinson i Gaerloyw, Wasps, Bryste ac Oyonnax - cafodd y maswr gynnig i orffen ei yrfa yn ôl yn y brifddinas.

Ar ôl ymddeol yn dilyn ei amser yn Ffrainc, daeth galwad SOS gan brif hyfforddwr Gleision Caerdydd, Danny Wilson - oedd wedi gweithio gyda Nicky ym Mryste.

Gyda Gareth Anscombe a Jarrod Evans wedi anafu, roedd y drws yn agored i Robinson ddychwelyd i Gaerdydd a gorffen ei yrfa lle cychwynodd popeth. A mae Robinson yn cyfaddef ei fod o wedi dweud celwydd gwyn er mwyn gwneud yn siwr fod y cynnig ddim yn diflannu.

“Oedd popeth wedi digwydd yn gyflym iawn a nes i ddweud celwydd wrth Danny hefyd oherwydd wnaeth e ffonio fi ar nos Fercher a dweud y sefyllfa.

Roedd Gareth Anscombe allan ar ôl cael ei anafu a roedd Jarrod Evans wedi torri asgwrn yn ei wyneb e, felly roedd angen rhywun arall gyda Steven.

Fe wnaeth e ofyn os o ni wedi bod yn ymarfer ychydig, ac ers i fi orffen yn Gorffennaf oeddwn i wedi gwneud un sesiwn ar y beic.

Ond ar y sesiwn yna, roedd rhaid i fi stopio oherwydd o’n i wedi tynnu cyhyr fy calf, a oedd rhaid i fi cerdded yn ôl.

Dyna’r unig sesiwn. Achos bod fi wedi gorffen chwarae o’n i wedi bod yn mwynhau yfed a peidio ymarfer.

Felly ie, nes i ddweud celwydd wrth Danny - ‘ie, ie, fi wedi bod yn cadw yn ffit a gwneud cwpwl o bethe’, paid a poeni’

Ond wedyn nes i feddwl - ‘sh*t, beth fi’n mynd i wneud nawr? Mae’n rhaid i fi ymarfer.’

Fe wnaeth e ddweud i fi ddod mewn ar y dydd Llun a cael wythnos o ymarfer a falle y byddwn ni’n edrych i ddod a ti i mewn i’r garfan yr wythnos ar ôl hynny.

Nes i cwpwl o sesiynnau yn Cheltenham - emergency sessions - mewn campfa lleol, wedyn mynd i ymarfer ar y dydd Llun. Daeth hi’n dydd Mawrth a wnaeth Danny ddweud, ‘ti ar y fainc dydd Sadwrn.’

Nes i meddwl i fy hyn, ‘ar y fainc? 10 diwrnod yn ôl o ni byth yn mynd i chwarae rygbi eto!’

Dyna’r gêm yn erbyn Ulster lle nes i ddod ymlaen a rhoi Cuthy i mewn am cais.

O’n i’n meddwl bod fi yn ôl a fod popeth yn briliant. Ond y tro nesaf i fi cyffwrdd y bêl ges i charge down a roedd hi’n gais i Ulster. The dream was over!

Ond oedd e’n grêt i fynd yn ôl i chwarae dros Gleision Caerdydd a gorffen fel ‘na.

Mae holl bennodau Podlediad Gleision Caerdydd, gan gynnwys y sgyrsiau diweddar gyda Jamie Roberts a Nicky Robinson, ar gael nawr o’r prif wefannau digidol.