Blog Banner

Gleision Caerdydd yn lansio podlediad Cymraeg newydd - y cyntaf o'i fath o fewn chwaraeon proffesiynol

Cymraeg | 28th May 2020


Mae Gleision Caerdydd wedi lansio podlediad Cymraeg newydd, y cyntaf o'i fath o fewn chwaraeon proffesiynol yng Nghymru.

Yn 2018 ymrwymodd y rhanbarth i gynyddu eu defnydd o'r Gymraeg ar draws sawl agwedd ar eu gwaith, ac mae'r cam diweddaraf, sy'n rhan o strategaeth sy'n datblygu'n gyson, yn golygu mai Gleision Caerdydd yw'r clwb chwaraeon proffesiynol cyntaf i lawnsio podlediad Cymraeg - sydd nawr ar gael ar y prif lwyfannau digidol.

Mae'r bennod gyntaf, sy'n cael ei chyflwyno gan Owain Gruffudd, yn cynnwys cyfweliad dadlennol gyda Jamie Roberts, cyn-aelod disglair o academi'r Gleision aeth yn ei flaen i gynrychioli Cymru a'r Llewod ar y maes rhyngwladol.

Mae Roberts yn datgelu agweddau egsgliwsif am ei yrfa a'i fywyd, o'i gyfnod fel disgybl yn Ysgol Gyfun Glantaf, a'i flynyddoedd fel un o'r ffefrynnau ar Barc yr Arfau, hyd at ei gyfraniad diweddar i helpu'r bwrdd iechyd lleol yn ystod y pandemic presennol.  

Dywedodd Mike Brown, Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata Gleision Caerdydd : "Fel rhanbarth y brifddinas, rydym yn ymwybodol o'n cyfrifoldeb i hyrwyddo'r Gymraeg, ac i gysylltu gyda chynulleidfaoedd a marchnadoedd newydd.

"Rydym yn ffodus fod ganddon ni nifer o chwaraewyr, hyfforddwyr ac aelodau o'r staff, o'r gorffennol a'r presennol, sy'n ymfalchio yn yr iaith, a thrwy rannu eu straeon yn y ffordd yma, gallwn greu cynnwys newydd ac unigryw ar gyfer cynulleidfa o siaradwyr Cymraeg trwy Gymru.

"Dyma'r cam diweddaraf i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gwaith yr ydym yn ei gynhyrchu, ac i roi lle mwy amlwg i'r Gymraeg o gwmpas stadiwm enwog Parc yr Arfau, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau â'r gwaith"

Ers cyhoeddi yr ymrwymiad ochr-yn-ochr ag ymgyrch Caerdydd Ddwyieithog Cyngor Caerdydd yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Caerdydd yn 2018, mae'r rhanbarth wedi cynyddu ei defnydd o'r Gymraeg yn raddol ar draws pob agwedd o'r gwaith.

Yn ogystal â chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ar-lein ac mewn deunydd marchnata, mae pob arwydd newydd ym Mharc yr Arfau yn ddwyieithog, mae nifer o chwaraewyr y tîm cyntaf wedi ymddangos ar y cyfryngau Cymraeg, ac rydym wedi cyd-weithio gyda nifer o sefydliadau ac ymgyrchoedd lleol, gan gynnwys Tafwyl.

Yn y podlediad cyntaf mae Jamie Roberts yn datgelu ei angerdd tuag at yr iaith Gymraeg, ac yn tanlinellu pwysigrwydd yr iaith yn y gymuned leol.

Yn ôl Roberts : "Rwy'n ffodus ffodus iawn i gael siarad yr iaith Gymraeg, a dwi’n caru gwneud pethau fel hyn.

"Tydw i ddim yn siarad Cymraeg yn aml yn fy mywyd i a does dim ‘da fi llawer o ffrindiau dwi’n siarad Cymraeg fel iaith cyntaf gyda.

"Felly mae’r cyfle ‘ma i drafod y gêm yn y Gymraeg, dwi’n caru hynny a eisiau diolch am y cyfle.

"Mae’n bleser cael siarad yr iaith a dwi dal yn ddiolchgar iawn am gael mynd i ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd fel Glantaf a dwi’n ddiolchgar iawn i’r cyfleuon gafodd eu rhoi i mi."