Blog Banner

Gêm ddarbi yn hanfodol i ddringo'r tabl - Turnbull

Cymraeg | 7th January 2023


Mae’r gêm ddarbi yn erbyn y Scarlets yn gyfle euraidd i Gaerdydd ddringo tabl Mhencampwriaeth Rygbi Unedig BKT, meddai Josh Turnbull.

Mae tîm Dai Young yn eistedd yn y nawfed safle wrth iddyn nhw baratoi i groesawu’r tîm o Lanelli i’r brifddinas ar gyfer yr olaf o dair gêm ddarbi yn olynol.

Ar ôl colli yn erbyn y Gweilch ar ddydd Calan, mae Turnbull yn benderfynol o ymateb, ac yn gobeithio y bydd torf sylweddol ym Mharc yr Arfau unwaith eto.

“Roedd e’n siomedig i bennu’r gêm fel oedd y gêm wedi bennu yn erbyn y Gweilch.

“Roedd hi’n gêm a hanner, byddai wedi gallu mynd unrhyw ffordd.

“Ond ni’n edrych ymlaen am gêm nawr yn erbyn y Scarlets, a gobeithio bydd torf fawr unwaith eto tu ôl i ni.

“Os ni eisiau gwneud rhywbeth tymor yma, ni yn yr wythfed safle ar y foment ond byddai cwpwl o bwyntiau yn rhoi ni yn ôl yn y chwe uchaf.

“Byddai hynny’n dda i ni, ond y ffaith yw ein bod ni’n cymryd un gêm ar y tro ar y foment a gawn ni weld beth sydd yn digwydd.”

Mae digon o gyffro wedi bod yn ystod yr wythnos am frwydr y cefnwyr, gyda’r ddau Lew, Liam Williams and Leigh Halfpenny, yn wynebu ei gilydd brynhawn Sadwrn.

Mae Turnbull, sydd wedi chwarae gyda’r ddau chwaraewr, yn dweud ei fod yn edrych ymlaen i weld y ddau seren yn mynd ben-ben: “Bydd hi’n ddiddorol i weld sut mae’r frwydr rhwng Liam Williams a Leigh Halfpenny yn dod mas.

“Mae’r ddau ohonyn nhw yn chwaraewyr arbennig o dda. Mae Liam wedi dod i mewn a chwarae un gêm er anaf, a mae Pence wedi gwneud yr un peth hefyd.

“Bydd e’n dda i weld sut mae nhw’n chwarae yn erbyn ei gilydd - y ‘bomb diffuser’ yn erbyn Leigh!”