Blog Banner

Gêm ddarbi yn achlysur arbennig i Josh Turnbull a'i deulu

5th October 2018


Bydd y gêm ddarbi yn erbyn y Dreigiau ddydd Sadwrn yn achlysur arbennig i Josh Turnbull a'i deulu.

Mi fydd y blaenwr yn chwarae ei 100fed gêm dros Gleision Caerdydd yn Rodney Parade, a bydd yn ymuno â chlwb arbennig iawn o chwaraewyr sydd wedi cyrraedd y garreg milltir dros ddau ranbarth, yn dilyn canrif o ymddangosiadau dros y Scarlets yn gynharach yn ei yrfa.

Mae Turnbull yn edrych ymlaen at yr achlysur, ac yn mynnu bod rhaid i’w dîm fod ar eu gorau yng Nghasnewydd.

“Mae hwn wedi dod rownd yn eithaf cloi. Fi wedi bod yma ers pedair mlynedd, a bydd hon yn foment prowd i fi a’r teulu penwythnos yma,” meddai Turnbull.

“Sai’n credu fod nifer o chwaraewyr wedi gwneud 100 o ymddangosiadau dros ddau ranbarth, ond sai’n edrych ar y rhifau.

“Fi moen mynd mas yna penwythnos yma a cael y fuddugoliaeth gyda bois y Gleision.

“Mae’r garfan yn edrych ymlaen, ond mae’n rhaid i ni wneud yn siwr fod y perfformiad yn iawn i ddechrau. Os bydd y perfformiad yn iawn, bydd y canlyniad yn dilyn.

“Mae’n rhaid i ni fynd mas a profi ein hunain, rhoi perfformiad dda i mewn a byddai hynny’n rhoi cyfle i bois fynd fewn i garfan Cymru.

“Pan mae’r gemau yn dod mas ar gychwyn y tymor, mae pawb yn edrych am y gêm ddarbi cyntaf. Ma’ nhw pob amser yn dod cyn y gemau Ewrop a cyn gemau rhyngwladol yr Hydref.

“Os yw’r dorf yn Rodney Parade yn codi eu hunain lan, mae hi’n gallu bod yn anodd a bydd nhw ar ein cefnau ni yn gweiddi am y tîm.”

Mae Turnbull yn ymwybodol o gryfderau tîm Bernard Jackman, ond canolbwyntio ar gêm eu hunain yw’r gamp i Gleision Caerdydd yn ôl y gwr o Gastell Newydd Emlyn.

“Bydd hi’n achlysur cyffrous a bydd bois y Dreigiau yn taflu eu hunain i mewn i ardal y dacl.

“Bydden nhw’n ceisio arafu’r bêl a gwneud hi’n anodd i ni chwarae’r gêm agored ni eisiau ei chwarae. Ond mae’n rhaid i ni fesco am ni’n hunain a mynd mas i’r cae i chwarae.

“Ni eisiau mynd mas a chwarae fel ni wedi bod yn ystod y pythefnos diwethaf yn erbyn Munster a Cheetahs, a cael buddugoliaeth arall er mwyn dechrau symud lan y tabl.

“Mae’r Dreigiau wedi gwella a wedi dod a lot o chwaraewyr i mewn. Dyw nhw heb gael y canlyniadau mae nhw moen, ond mae nhw wedi chwarae gêm mwy agored.

“Mae rhaid i’n amddiffyn ni fod yn gryf a pan ni eisiau ymosod, bydd rhaid benni pethau ffwrdd yn gynnar yn y gêm.

“Os mae nhw dal mewn yn y gêm gyda cwpwl o munudau ar ôl, bydd hi’n anodd i ni a byddan nhw’n dod yn ôl atom ni.”