Blog Banner

Gallwn ni greu problemau i'r Sharks - Turnbull

Cymraeg | 24th November 2022


Mae Josh Turnbull yn hyderus y gall ei dîm greu problemau i’r tîm cartref, wrth iddyn nhw herio’r Cell C Shark yn Durban dydd Sul.

Mae tîm Dai Young bellach wedi glanio yn Ne Affrica ar gyfer dwy gêm Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT, gyda gornest yn erbyn Vodacom Bulls yn Pretoria i ddilyn wythnos nesaf.

Mae Caerdydd eisioes wedi hawlio buddugoliaeth dros dîm o Dde Africa eleni, a hynny dros y pencampwyr DHL Stormers yng Nghaerdydd.

Ond gyda’i dîm yn targedu buddugoliaeth gyntaf ers 2019 ar dir De Affrica, mae Turnbull yn credu gall Gaerdydd gymryd hyder o’u perfformiadau hyd yma.

“Mae’n eithaf poeth yma ar y foment ond mae hi fod i newid dros y penwythnos,” meddai’r capten. “Bydd bach o law yn dod mewn ar gyfer y gêm felly gobeithio allith hynny helpu ni mas. Ni’n gwybod sut i chwarae yn y glaw!

“Mae timau De Affrica yn fawr a mae llinell symudol cryf gan bob un o’r timau mas fan hyn.

“Bydd ardal y dacl yn holl bwysig a pan ti’n trafod sut fath o gêm ni angen chwarae yn erbyn nhw, ni angen chwarae gêm naw allan o ddeg er mwyn ennill yn erbyn un o’r timau ‘ma.

“Ni wedi dysgu lot o chwarae yn erbyn timau fel Stormers a’r Bulls o’r blaen. Chi ddim yn gallu cicio yn llac iddyn nhw achos bydden nhw’n rhedeg y bêl yn ôl ac yn creu problemau i chi.

“Ni wedi dangos beth ni’n gallu gwneud gyda gêm cicio ni yn erbyn y Stormers gartref. Gyda pob cic roedd siawns i gael y bêl yn ôl, a roedd hynny’n rhan cryf o’n gêm ni. Bydden ni’n edrych i ddefnyddio hynny hefyd.

“Ni wedi colli cwpwl o fois i carfan Cymru, ond i gael rhai o’r bois rhyngwladol eraill ‘ma, mae’n gwneud ni’n gryf. Dyna pam fi’n meddwl bod cyfle i ni fynd mas ‘na penwythnos yma a creu problemau i’r Sharks. 

“Mae siawns gyda ni wythnos hyn. Ni’n canolbwyntio ar beth ni’n gallu gwneud fel grwp Caerdydd. Ni’n cymryd un gêm ar y tro ar y foment.”