Blog Banner

Gallwn gystadlu gyda'r goreuon ar ein diwrnod - Harries

Cymraeg | 25th October 2022


Mae Jason Harries yn credu gall Caerdydd gystadlu gyda’r goreuon ar eu diwrnod, ar ôl iddynt drechu’r pencampwyr presennol, DHL Stormers, nos Sadwrn.

Roedd yr asgellwr ar y sgor-fwrdd wrth i dîm Dai Young sicrhau eu trydydd buddugoliaeth yn olynol. 

Roedd Harries yn hapus gyda cywirdeb ei dîm ym mhob agwedd o’r chwarae nos Sadwrn a mae’n gobeithio gall y momentwm a’r hyder barhau i’r ornest yn erbyn Caeredin dydd Sul.

“Oedd hi’n gêm dda i ni ennill. O’n ni’n gwybod bod y Stormers yn dod ‘ma heb golli ers 15 gêm,” meddai’r asgellwr.

“Mae nhw’n dîm da sydd wedi ennill y bencampwriaeth blwyddyn diwethaf. Felly o’n ni’n gwybod ein bod ni lan yn erbyn tîm cryf gyda pac mawr o Dde Affrica.

“Roedd rhaid i ni fod ar y cam cywir ym mhob rhan o’n gêm ni a gaethom ni’r canlyniad yn y diwedd. Roedd pawb ar yr un dudalen i gael y fuddugoliaeth.

“O’n ni’n meddwl bydden ni’n gallu targedu cefnwyr nhw, sydd yn gadael lot o wagle yn y cefn. Mae’n dal rhaid cael y gic yn berffaith ac i ni asgellwyr fod yn rhedeg ar ôl popeth, felly oedd hi’n neis i Theo a fi gael cais yr un heno.

“Ni wedi cymryd hi gêm-wrth-gêm hyd yn hyn. Oedd hi’n ddechre da yn erbyn Munster, ond wedyn colli bant o gartref a colli ‘to yn erbyn y Lions. Felly ni wedi edrych arni fel carfan ar beth ni moen mas o’r tymor a’r gemau.

“Roedd hi’n galyniad da yn erbyn y Scarlets, wedyn yn erbyn y Dreigiau a wedyn heno yn erbyn Stormers. Felly ni’n dal i gymryd cam-wrth-gam a Caeredin sydd wythnos nesaf.

“Byddwn ni’n edrych arnyn nhw ar ddechrau’r wythnos a gweld lle gallwn ni faeddu nhw.

“Pan mae’r timau mawr yn dod i Gaerdydd, mae’r bois yn edrych ymlaen at y gemau hynny. 

“Mae’r Stormers wedi ennill y bencampwriaeth a wedi profi eu hunain i fod yn bencampwyr, ond pam allwn ni ddim maeddu nhw?

“Roedd y stats yn dweud fod nhw wedi mynd 15 gêm heb golli. Daeth y Gweilch yn agos penwythnos diwethaf a roedd gyda ni game-plan heno i geisio curo nhw. Ni wedi llwyddo i wneud hynny, a ni gyd yn hapus.

“Os chi’n pigo buddugoliaethau lan, mae’n gwneud e’n lle neis i fod. Mae cymeriad y tîm wedi dod i’r blaen hefyd.

“I fynd i’r Scarlets ac amddiffyn yn dda i weld y gêm mas, roedd hynny wedi rhoi sbarc i ni.”

Ar ôl cicio 20 pwynt i’w dîm a rheoli’r chwarae o’r crys rhif 10, Rhys Priestlandd oedd Seren y Gêm ym Mharc yr Arfau nos Sadwrn, gan goroni wythnos lle wnaeth y maswr ddychwelyd yn ôl i garfan Cymru.

Mae Harries yn teimlo fod Caerdydd yn manteisio o waith caled yr hanneri ar y maes ymarfer. Ychwanegodd: “Mae Rhys wedi perfformio fel ‘na ers blynyddoedd. Mae’n rhoi gymaint o waith ymarfer i mewn yn ystod yr wythnos.

“Ar ôl ymarfer mae e mas na’n cicio, a pan mae hi’n dod i’r gêm a mae’r pwysau ymlaen, ma’ fe’n troi lan gyda perfformiad fel hyn. Mae e’n bwysig iawn i ni.

“Mae gyda ni cicwyr da yn y tîm - bois fel Tomos, Lloyd, Jarrod a Rhys, yn ogystal a Ben heno ‘fyd. Felly pan mae’r bois ‘na’n cicio, chi’n gwybod bod nhw am fod ‘ar yr arian’ a mae e lan i ni i gael y bêl yn ôl i’r tîm.

“Mae lot o ymarfer yn mynd i fe a mae’n rhywbeth ni’n parchu trwy gydol yr wythnos.”