Blog Banner

Gallwn gymryd hyder o'r perfformiad yn erbyn Harlequins - Adams

Cymraeg | 17th January 2022


Mae Josh Adams yn credu gall ei dîm gymryd hyder o’u perfformiad yn erbyn Harlequins nos Wener, wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Toulouse yng ngêm olaf Cwpan y Pencampwyr dydd Sadwrn.

Sgoriodd Caerdydd a phencampwyr Lloegr bump cais yr un, ond cic hwyr Marcus Smith gipiodd fuddugoliaeth yn y funud olaf i’r clwb o Lundain.

Mae gobeithion tîm Dai Young o gyrraedd y rownd nesaf yn parhau yn fyw, ond bydd rhaid iddyn nhw drechu y pencampwyr presennol yn Ffrainc.

Mae Adams yn awchu am y sialens yn Toulouse, wrth i Gaerdydd geisio efelychu eu buddugoliaeth yno yn 2017.

“Ni yn siomedig i golli reit ar y diwedd yn fan ‘na. Mae hi’n un galed i’w gymryd.

“O’n ni’n meddwl mai ni oedd y tîm gorau am y rhan fwyaf o’r gêm yna a efallai fod disgyblaeth wedi gadael ni lawr yn y diwedd, ond roedd e’n lot gwell na wythnos diwethaf.

“Gobeithio gallwn ni adeiladu ar y perfformiad yma a cymryd e mewn i’r gêm wythnos nesaf.

“Ni’n gwybod fod Toulouse eisiau chwarae yn yr un ffordd a ni’n gwybod beth sydd i’w ddod.

“Mae chwaraewyr arbennig ganddyn nhw felly bydd hi’n brawf anodd i ni allan yn Ffrainc. Mae record gwych gyda nhw adref a bydd e’n galed i ni.

“Ond mae’n sialens i ni fel carfan a mae Caerdydd wedi ennill mas ‘na cwpwl o flynyddoedd yn ôl. Mae rhai o’r bois wedi ennill yn Toulouse felly mae hyder gallwn ni gymryd o hynny.

“Mae hyder gallwn ni gymryd o’r perfformiad yn erbyn Harlequins hefyd a ni’n edrych ymlaen i’r sialens ‘na.”

Er nad oedd torf ym Mharc yr Arfau i groesawu Harlequins i’r brifddinas, mi fydd y cefnogwyr yn dychwelyd wrth i Leinster ymweld â stadiwm hanesyddol ymhen pythefnos.

Mae Adams yn edrych ymlaen i weld y teras yn llawn unwaith eto, gyda gemau enfawr ar y gweill yn y gynghrair.

“Ni a Harlequins yn dimau sydd yn hoffi chwarae gêm cyflym ac agored, ac yn chwarae mewn ffordd debyg,” medddai Adams.

“Oedd e’n ddoniol, achos roedd pobl yn eistedd lan yn y fflatiau tu ôl i’r stadiwm, ac o’n ni’n gallu clywed nhw. Fi hefyd yn credu bod 50 neu 100 o bobl yn y clwb hefyd yn cael peint ond yn methu dod i wylio!

“Bydd cael y dorf yn ôl yn yr wythnosau nesaf yn wych. Mae gemau mawr yn dod lan, gan gynnwys gemau darbi, a ni’n edrych ymlaen i gael pawb yn ôl.”