Blog Banner

Gallwn deithio i Gaeredin gyda hyder meddai Lewis-Hughes

22nd February 2019


Mae Shane Lewis-Hughes yn credu gall Gleision Caerdydd deithio i Gaeredin gyda hyder yn eu ymosod a'u amddiffyn.

Ar ôl ennill dau bwynt bonws yn erbyn Glasgow wythnos diwethaf, mae tîm John Mulvihill yn ymweld â phrifddinas Yr Alban gan obeithio i gau’r bwlch rhyngddyn nhw â Connacht, sydd yn eistedd bedwar pwynt ar y blaen yn y trydydd safle.

Mae’r blaen-asgellwr yn mynnu fod ffocws y Gleision i gyd ar y gêm yn erbyn tîm Richard Cockerill, wrth iddyn geisio rhoi pwysau ar y Gwyddelod.

“Un o’r pethau positif yn erbyn Glasgow oedd fod y cefnwyr yn creu llawer o gyfleuon i roi ni ar y droed flaen,” meddai Lewis-Hughes.

“Roedd ein ymosod ni’n dda, ond yn yr hanner cyntaf roedd ein amddiffyn ni ddim cystal.

“Ond wythnos hyn, ni moen chwarae gyda tempo a canolbwyntio ar ein gêm ni yn enwedig wrth ymosod.

“Fi’n credu bod amddiffyn ni’n un o’r gorau yn y gynghrair, a ni’n hyderus yn ein gallu i droi’r bêl drosodd.

“Ond ni moen dangos a chwarae gyda’r hyder wrth ymosod ac amddiffyn lan yng Nghaeredin.

“Mae gêm wythnos diwethaf wedi mynd nawr, felly mae hi’n bwysig ein bod ni’n canolbwyntio ar dydd Sadwrn yn unig.

“Ni’n gwybod pa mor bwysig fydd y gêm yma a ni angen mynd lan i Gaeredin i ennill.

“Mae pob gêm rhwng nawr a diwedd y tymor yn bwysig os ydyn ni eisiau gorffen yn y tri uchaf, ond ar y foment ni’n canolbwyntio ar Caeredin a dim byd arall. Ni moen mynd yna a gwneud y busnes.

“Fi’n gyffrous pan mae’r alwad yn dod i mi chwarae i’r Gleision a gwneud fy swydd ar ran y tîm.

“Fi’n gyffrous wythnos hyn unwaith eto ac eisiau cymryd y cyfleuon pan mae nhw’n dod. Byddai’n gwneud popeth allai wneud er mwyn helpu’r bois i gael y canlyniad.”