Blog Banner

Gall gêm Glasgow fod yn gêm i'w chofio - Williams

Cymraeg | 11th October 2019


Mae Lloyd Williams yn credu fod gan y gêm rhwng Gleision Caerdydd a Glasgow Warriors y cynhwysion i fod yn ornest gyffrous yn Stadiwm Scotstoun dros y penwythnos.

Mae tîm John Mulvihill wedi seilio buddugoliaeth oddi-cartref yn barod tymor yma - ar ôl curo Southern Kings ar y penwythnos agoriadol - ond colli oedd eu hanes yn y gêm cartref cyntaf o’r tymor yn erbyn Caeredin penwythnos diwethaf.

Ar y llaw arall, mae Glasgow wedi colli eu dwy gêm agoriadol, gan gynnwys gartref yn erbyn Scarlets penwythnos diwethaf.

Mae’r mewnwr yn mynnu fod rhaid i’w dîm ganolbwyntio ar gêm eu hunain ond mae’n hyderus fod gan Gleision Caerdydd ddigon yn eu arf i achosi problemau i’r Albanwyr.

“Mae’r ffordd mae nhw’n chwarae’r gêm, a’r ffordd ni’n hoffi chwarae, yn gwneud hon yn gêm dda pob tro a ni’n gobeithio gallwn ni roi stamp ein hunain ar y gêm penwythnos yma,” meddai Williams.

“Mae nhw mewn lle tebyg i ni. Roedd disgwyl i’r ddau o ni ennill wythnos diwethaf, a mae pob gêm cartref yn bwysig i unrhyw dîm.

“Ond ni wedi disgwyl iddyn nhw ddod mas o’r blocs, er gwaethaf canlyniad wythnos diwethaf, felly ni eisiau cymryd y gêm at Glasgow a perfformio yn well wythnos hyn.

“Ni’n gwybod beth ni’n gallu gwneud i’w brifo nhw, a mae hynny yn rhoi hyder i ni.

“Ni mewn lle da fel carfan, a dim ond perfformiad sal oedd wythnos diwethaf, felly os ni’n gallu cael temp i’n gêm, byddwn yn beryg ac yn dîm anodd i’w curo.

“Mae hyder yn y garfan bod ni’n gallu curo timau gorau y gynghrair pan ni’n chwarae yn y ffordd ni’n hoffi chwarae.

“Ni gyd yn gwybod y talent sydd yn y garfan yma ond ni eisiau gnweud yn siwr bod ni’n perfformio mor dda a ni’n gallu.

“Mae cychwyn Glasgow wedi bod bach o syrpreis i fod yn onest. Mae’n nhw gyda carfan cryf a fel arfer mae nhw’n ennill gemau, yn enwedig gartref.

“Ni wedi synnu o’r ddwy gêm cynaf, ond mae’n bwysig i ni beidio mynd lan yna a credu bod hi’n mynd i fod yn dasg hawdd.

“Mae nhw dal yn dîm da iawn, er bod nhw wedi colli dwy, felly mae’n bwysig i ni geisio manteisio ar ein cyfleuon wythnos yma, a mae hynny’n golygu dechrau’r gêm yn dda.

“Mae nhw wedi colli lot o chwaraewyr a mae hi’n adeg o’r tymor ni fel tîm eisiau manteisio arno fo. 

“Ni ddim wedi colli gymaint o chwaraewyr i Cwpan y Byd ond mae gan Glasgow carfan cryf, fel ni wedi gweld blwyddyn diwethaf.

“Mae’n bwysig i ni gymryd y gêm o ddifrif oherwydd mae’r cyfnod yma am fod yn bwysig tuag at diwedd y tymor.”

Mae Williams hefyd yn dweud fod y tîm wedi ymateb i’r gêm yn erbyn Caeredin wrth ymarfer wythnos yma, a mae’n gweld y daith i Glasgow fel cyfle i ddangos eu gwaith.

“Oedd dydd Llun yn ddiwrnod eithaf caled i lot o bobl oherwydd oeddem ni’n gwybod fel carfan bod ni heb chwarae mor dda a gallen ni.

“Dyna oedd y peth mwyaf rhwystredig yn erbyn Caeredin, doedd y perfformiad ddim yn dda. 

“Oedd hi’n bwysig i ni fel grwp bod yn onest iawn yn y debrief dydd Llun a chwarae teg i’r bechgyn, mae nhw wedi ymateb i hynny yn barod yn ystod yr wythnos.

“Y peth pwysicaf nawr yw bod ni wedi dysgu ein gwersi ac yn barod i rhoi hynny ar Glasgow dros y penwythnos.”