Blog Banner

Gall Cymru fod yn hyderus wrth wynebu'r Wallabies - Lewis

Cymraeg | 25th September 2019


Mae Dillon Lewis yn credu fod rheswm i Gymru fod yn hyderus wrth baratoi i wynebu Awstralia yn ail gêm yr ymgyrch Cwpan y Byd dydd Sul.

Daeth y prop o’r fainc i’w dîm ym mis Tachwedd llynedd, wrth i Gymru sicrhau buddugoliaeth o 9-6 yn erbyn dynion Michael Cheika.

Mae Lewis, sydd â 16 o gapiau rhyngwladol i’w enw, yn ymwybodol o fygythiad ymosodol y Wallabies ond mae’n credu fod hi’n bwysig i’w dîm gymryd ysbrydoliaeth o’r gêm yn Stadiwm Principality yng Ngemau’r Hydref llynedd.

“Mae’n rhywbeth gallwn ni gymryd wrth fynd mewn i’r gêm dros y penwythnos a mae’n enfawr i ni gael y buddugoliaethau hynny yn erbyn timau hemisffer y de,” meddai Lewis.

“Gallwn edrych yn ôl ar y gemau hynny yn ystod yr Hydref, gweld beth aeth yn iawn i ni fel tîm a bydd y profiad yna yn bwysig cyn dydd Sul.

“Ni wedi cael cyfle i weld beth mae Awstralia yn gallu gwneud yn y gêm yn erbyn Ffiji dros y penwythnos, a mae eu darnau gosod wedi gwella a bydd e’n agwedd o’r gêm i ni ganolbwyntio arno.

“O ochr amddiffynol, ni gyd yn gwybod beth mae Awstralia yn gallu gwneud gyda’r bêl yn eu dwylo a mae nhw’n dîm peryg a chyffrous wrth ymosod.

“Bydd rhaid i’r amddiffyn fod ar dop ei gêm, a gobeithio bydd hi’n gêm dda i’w gwylio.”

Fe ddaeth Lewis o’r fainc ar gyfer ei ymddangosiad cyntaf mewn Cwpan y Byd wrth i Gymru gipio pwynt bonws a threchu Georgia dydd Llun.

Ond fe roedd siom i dîm Warren Gatland wrth i Cory Hill dynnu mas o’r gystadleuath gydag anaf. Mae clo profiadol Bradley Davies wedi ymuno â’r garfan yn dilyn yr anaf i Hill.

Roedd Lewis yn hapus gyda perfformiad ei dîm yn y darnau gosod yn erbyn sgrym enwog Georgia, a mae’n hyderus gall Davies ymuno â’r garfan heb unrhyw problemau.

“Mae hi wedi bod yn Haf hir, yn adeiladu mewn i Gwpan y Byd, a roeddech yn gallu gweld fod y bois yn ysu i chwarae yn erbyn Georgia, a mae hi’n braf i gychwyn y gystadleuaeth,” ychwanegodd y prop.

“Roedd hi’n dda i groesi am chwe cais, a roedd hi’n berfformiad da fel tîm.

“Roedd yna lot o ffocws ar y darnau gosod a beth fyddai Georgia yn gynnig, yn enwedig yn y sgrymiau.

“Mae nhw’n ymfalchio yn eu sgrym ac yn un o dimau gorau’r byd yn yr agwedd yna.

“Roedd yna bwyslais mawr ond fe wnaethom yn dda, yn enwedig yn yr hanner cyntaf, yn ogystal ag yn y llinellau.

“Mae’n siom i golli Cory. Mae’n foi gret ac yn chwaraewr gwych, ond mae Brad Davies wedi ymuno â’r garfan a mae ganddo lot o brofiad.

“Mae wedi chwarae mewn dwy ymgyrch Cwpan y Byd a mae’n gymeriad mawr yn yr ystafell newid felly fe fydd yn ffitio mewn yn berffaith.”