Er i Steffan Emanuel groesi am ddau gais yn erbyn RGC, roedd y canolwr ifanc yn mynnu talu teyrnged i waith y blaenwyr ar ôl i Gaerdydd sicrhau’r pwyntiau llawn ym Mharc yr Arfau.
Ar ôl colli yn erbyn y Gweilch wythnos diwethaf, roedd gan dîm y brifddinas bwynt i’w brofi wrth iddyn nhw groesawu’r gwyr o’r Gogledd i Barc yr Arfau.
Ond croesodd tîm Chadd Mutyambizi am saith cais mewn perfformiad syfrdanol – gyda pump o’r ceisiau yn dod gan y cefnwyr.
Roedd Emanuel yn falch o weld ei dîm yn ymateb ar ôl colli i’r Gweilch, ac yn teimlo fod y pac wedi chwarae rhan allweddol yn y fuddugoliaeth.
“O’n ni’n siomedig ar ôl colli yn erbyn y Gweilch, ond ni wedi bod yn edrych ymlaen i chwarae yn erbyn RGC heddiw,” meddai’r disgybl Millfield.
“Cyn y gêm, o’n ni wedi gwneud ein gwaith cartref ac eisiau dod yma i chwarae gymaint ni’n gallu, a ni wedi gwneud hynny’n dda iawn heddiw.
“Roedd y tywydd sych wedi helpu i ni wneud y pethau o’n ni eisiau.
“Roedd y bêl yn ein dwylo gymaint a phosib ac o’n ni’n ceisio cael y bêl i’r asgell gymaint ag o’n ni’n gallu.
“Fi’n bles gyda fy mherfformiad i, ond does dim tîm gyda dim ond un chwaraewr. Roedd y blaenwyr wedi camu lan heddiw.
“Fel tîm ni wedi profi pwynt ar ôl y gêm yn erbyn y Gweilch a mae lot o hynny yn ddiolch i’r blaenwyr am osod llwyfan.
“Oedd y bois wedi camu lan yn dda a roedd gwaith y blaenwyr wedi gadael i’r cefnwyr berfformio hefyd. Mae’n gosod y llwyfan i ni fod ar y droed blaen.”
Bydd amser paratoi yn brin i Gaerdydd wrth iddyn nhw baratoi i wynebu’r Scarlets yn Llanelli nos Fercher.
Mae Emanuel yn gobeithio gall ei dîm adeiladu momentwm o’r fuddugoliaeth dros RGC wrth i ddiwedd y tymor agosau: “O’n ni angen gêm a perfformiad fel hyn. Ond mae angen adeiladu ar y momentwm nawr wrth edrych ymlaen at y Scarlets a’r Dreigiau.
“Bydd perfformiad fel ‘na heddiw yn codi hyder y bois ac yn gyrru’r momentwm i ni.”