Dillon yn edrych ymlaen i gystadlu gyda’i ranbarth

by

in

“Y ffordd orau i ddisgrifio’r cwpwl o fisoedd diwethaf yw un ‘rollercoaster’ enfawr.”

Dyna oedd geiriau’r prop, Dillon Lewis, wrth iddo edrych yn ôl ar ymgyrch lwyddiannus Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness eleni.

Llai na dwy flynedd yn ôl roedd Lewis yn enw annisgwyl yng ngharfan Cymru i fynd ar daith i wynebu Tonga a Samoa, a mae’r seren o Bentre’r Eglwys wedi mynd o nerth-i-nerth ers hynny.

Gyda 12 cap i’w enw erbyn hyn – a heb golli gêm yn y crys coch enwog – mae Lewis wedi gweithio ei ffordd i mewn i gynlluniau Warren Gatland, a hynny ar drothwy Cwpan Rygbi’r Byd yn Siapan eleni.

Fe wnaeth y prop ei ymddangosiad cyntaf yn y Chwe Gwlad fel eilydd yn erbyn Yr Eidal yn Rhufain, gan fynd ymlaen i chwarae yn y tair gêm oedd yn weddill a gwneud enw i’w hun fel prop oedd yn creu argraff wrth ddod oddi ar y fainc.

Mae Lewis yn cyfaddef fod yr ymgyrch wedi mynd tu hwnt i’w ddisgwyliadau, gan greu atgofion bythgofiadwy.

“Cyn i’r Bencampwriaeth gychwyn, roedd gen i darged o chwarae un gêm, gan nad oeddwn wedi gwneud ymddangosiad yn y Chwe Gwlad cyn hynny. Ond roeddwn yn ymwybodol o’r gystadleuaeth gyda chwaraewyr fel Samson Lee, Thomas Francis a Leon Brown,” meddai’r prop.

“Ond roedd gorffen yr ymgyrch gyda phedwar cap ychwanegol, a chipio’r Gamp Lawn, yn anhygoel a dweud y lleiaf.

“Y gêm yn erbyn Lloegr sydd yn aros yn y cof yn bersonol, a mae hi wastad yn dda i wynebu fy ffrind, Ellis Genge, yn y sgrymiau.

“Ond fyddai byth moen ail-fyw y nerfau cyn y gêm yna, yn enwedig yn ystod y bore. Ond roedd hi’n noson arbennig a roedd yr awyrgylch yn y stadiwm yn anhygoel.

“Pan chi mas yn chwarae, chi’n ceisio anwybyddu’r sŵn a canolbwyntio ar y gêm, ond mae hi’n anodd gwneud hynny pan mae 70,000 o bobl yn gweiddi yn eich wyneb!

“Ond rhain yw’r gemau chi’n cofio am byth, ac mae’r stadiwm yn lle eithaf arbennig i fod, yn enwedig pan mae’r anthem yn cael ei chanu”.

Roedd tîm hyfforddi Cymru wedi pwysleisio pwysigrwydd yr effaith o’r fainc yn ystod yr ymgyrch, wrth iddynt geisio gorffen pob gêm yn gryf. Daeth hyn yn amlwg wrth i Gymru gipio buddugoliaethau dramatig, cofiadwy a hwyr dros Ffrainc a Lloegr.

Mae Lewis yn credu fod pwysigrwydd y garfan gyfan wedi tyfu yn y gêm fodern a dywedodd fod yr awyrgylch o fewn yn tîm wedi cael dylanwad mawr ar y llwyddiant.

Dywedodd y prop: “Mae pawb eisiau cychwyn y gemau, wrth gwrs, ond roeddwn yn gwybod eu bod nhw eisiau i mi greu argraff o’r fainc a roedd yna bwyslais mawr ar hynny trwy’r garfan.

“Mae rôl y fainc tuag at ddiwedd y gêm yn fwy a mwy pwysig yn y gêm fodern a roedd yr hyfforddwyr wedi sylweddoli hynny.

“Roedd pawb yn agos at ei gilydd o fewn y garfan, ac mae’r diolch am hynny i’r arweinwyr yn y camp. Roedd bois fel Alun Wyn Jones a Foxy [Jonathan Davies] yn gwneud yn siwr fod dim ‘cliques’ a fod pawb yn gyfforddus o amgylch ei gilydd.

“Roedd hi’n garfan lle roedd pawb yn dod ymlaen gyda’i gilydd a roedd pawb yno am y rhesymau cywir.

“Os nad oedd bois yn cael eu dewis, roeddent yn gweithio’n galed wrth ymarfer gan greu amgylchedd gystadleuol, a dyna chi moen yn y sefyllfa ‘na. Roedd pawb yno er mwyn gweithio yn galed i’r grŵp.

“Roedd ‘na nifer o fois Gleision Caerdydd yn y garfan, a llawer sydd wedi dod trwy’r rhanbarth yn y gorffennol, a chi ddim yn sylwi weithiau pa mor arbennig yw chwarae gyda’ch ffrindiau ar y llwyfan rhyngwladol.”

Mae Lewis eisioes wedi dychwelyd i’w ranbarth, gyda Gleision Caerdydd yn brwydro am le yn y tri uchaf yn y Guinness PRO14, gan chwarae ei ran yn y fuddugoliaeth swmpus dros Scarlets wythnos diwethaf.

Mae’r cyn-ddisgybl o Coleg y Cymoedd hefyd yn cadw’i hun yn brysur trwy redeg cwmni coffi – Fat Dragon Coffee – gyda’i gyd-brop, Brad Thyer.

Wedi cael blas ar brif gystadleuaeth Ewrop am y tro cyntaf eleni, mae Lewis yn benderfynol o ddychwelyd i Gwpan y Pencampwyr unwaith eto, ond mae’n ymwybodol o’r sialens gan Connacht a’r Gweilch gyda thair gêm yn weddill.

“Rwyf eisiau chwarae dros y rhanbarth gymaint â phosib rhwng nawr a diwedd y tymor, a mae ‘da ni gemau cyffrous gyda gwir gyfle i gyrraedd y chwe olaf,” meddai Lewis, ddaeth o academi’r Gleision.

“Mae’n wych i allu cystadlu tan diwedd y tymor, a ni wedi cael blas o hynny llynedd yng Nghwpan Her Ewrop. Mae’n gwneud yr holl awyrgylch yma yn gystadleuol, a ni’n mwynhau hynny.

“Eleni oedd y tro cyntaf i mi chwarae yng Nghwpan Pencampwyr Heineken, a fel chwaraewr chi moen wynebu’r chwaraewyr gorau.

“Mae’r gemau yn fwy a’r safon yn well, a chi ddim yn sylwi’r gwahaniaeth tan i chi gael profiad o chwarae yn y gystadleuaeth. Mae pawb yn gweithio’n galed i chwarae yn hon unwaith eto.”

Latest news