Blog Banner

Digon o gymeriad yn y garfan i gipio'r gyfres meddai Turnbull

Cymraeg | 12th July 2021


Mae Josh Turnbull yn mynnu fod gan carfan Cymru y cymeriad i gipio'r gyfres yn erbyn yr Ariannin.

Croesodd Tomos Williams a Will Rowlands yn y gêm gyntaf rhwng y ddwy wlad dros y penwythnos, ond nid oedd unrhyw beth i wahaniaethu’r timau ar y chwiban olaf, gyda’r gêm yn gorffen yn gyfartal.

Gyda’r gêm olaf yn penderfynu pwy fydd yn cipio’r gyfres, mae Turnbull yn hyderus fod ei dîm yn gwybod beth sydd angen ei wella er mwyn trechu’r Los Pumas.

“Ni bach yn siomedig a roedd disgyblaeth ni wedi cadw nhw yn y gêm,” meddai’r blaenwr.

“Ond mae hynny’n rhywbeth allwn ni edrych arno i’w wneud yn lot well wythnos nesaf.

“Mae nhw’n dîm anodd sydd yn chwarae gêm syml. Os dyw nhw ddim yn mynd i nunlle, mae nhw’n bwrw’r bêl yn ôl i mewn i’r awyr a mae’n gallu bod yn anodd chwarae yn erbyn hynny ambell waith.

“I ni, mae’n rhaid i ni newid o amddiffyn i ymosod yn syth a bydd rhaid bod yn lot gwell yn gwneud hynny wythnos nesaf.

“Mae lot o chwaraewyr sydd yn gallu chwarae yn y grwp yma, a dyw nhw ddim eisiau rhoi’r ffidil yn y to.

“Mae nhw eisiau cadw i fynd a dyna o’n ni wedi dangos heddiw.

“Oedd hi’n bleser i ddod ymlaen a creu argraff ar y gêm, ac o’n i’n falch i ddod ymlaen yn gynnar.”