Blog Banner

Cychwyn perffaith i dîm dan-20 Cymru yn yr Ariannin

Cymraeg | 4th June 2019


Chwaraeodd pedwar o sêr ifanc Gleision Caerdydd eu rhan wrth i dîm dan-20 Cymru gychwyn Pencampwriaeth y Byd gyda buddugoliaeth yn erbyn yr Ariannin.

Roedd Ben Warren a Ioan Davies yn y 15 i gychwyn y gêm, gyda Max Llewellyn a Teddy Williams yn ymddangos o’r fainc ar gyfer tîm Gareth Williams.

Cafodd y canolwr, Llewellyn, ei gyflwyno i’r gêm yn gynt na’r disgwyl, ar ôl i Aneurin Owen gael ei orfodi o’r maes gyda anaf cynnar.

Daeth pwyntiau cyntaf y gêm o droed Cai Evans, ond brwydro yn ôl wnaeth y tîm cartref, gyda Francisco Minervino yn gorfodi ei ffordd dros y gwyngalch, yn dilyn gwaith gwych gan yr asgellwr Mateo Carreras.

Yn hanesyddol, mae’r Ariannin yn cael eu adnabod am gryfder eu pac, ond fe wnaeth Warren a gweddill rheng-flaen Cymru - Kemsley Mathias a’r capten Dewi Lake - greu digon o broblemau i sgrymiau’r Ariannin yn yr hanner agoriadol.

A sgrym wnaeth osod y platfform ar gyfer cais cyntaf y Cymry, gyda Harri Morgan yn cyfuno yn wych gyda’r asgellwr, Rio Dyer, i groesi’r llinell gais.

Gyda’r Ariannin yn edrych am eu ail gais o’r prynhawn, roedd pwysasu amddiffynol gan y prop Warren yn ddigon i droi’r meddiant a chaniatau i Morgan daro’r bêl lawr y cae.

Ryan Conbeer oedd wrth-law i ddilyn y bêl ac ennill cic gosb, gyda tri pwynt gan Evans yn ddigon i roi Cymru ar y blaen ar yr hanner.

Croesodd Rodrigo Isgro am gais i’r tîm cartref wedi dim ond tri munud o’r ail hanner, ond roedd ciciau cosb y maswr, Evans, yn ddigon i gadw Cymru yn y gêm.

Roedd dau cic gosb arall i Evans yn ddigon i roi tîm Gareth Williams yn ôl ar y blaen, gyda’i gyfanswm personol o bwyntiau yn cyrraedd 15 ar gyfer y prynhawn.

Er i Ignacio Mendy groesi i’r Piwmas, fe wnaeth Cymru ymateb yn dilyn gwaith unigol gwych gan Conbeer, gyda Evans yn ymestyn y fuddugoliaeth i wyth pwynt.

Roedd hi'n ddiweddglo nerfus i Gymru yn dilyn cic gosb hwyr gan y tîm cartref, ond unwaith eto roedd yr amddiffyn yn ddigon i rwystro'r Ariannin rhag croesi'r llinell gais.

Y pencampwyr presenol, Ffrainc, a Ffiji yw'r sialens nesaf yn wynebu tîm Gareth Williams yn y grwp.