Roedd chwaraewyr ifanc Gleision Caerdydd A wedi creu argraff ar Harri Millard, wrth i’w dîm drechu Dreigiau A yn Ystrad Mynach nos Fercher.
Roedd y pac ifanc, oedd yn cynnwys chwaraewyr fel Gwilym Bradley, Alex Mann a Teddy Williams, wedi gosod platfform cryf i’r cefnwyr ymosod, er gwaethaf y gwynt a’r glaw.
Roedd Millard hefyd yn falch o gael cyfle i ymestyn ei goesau, wrth iddo wneud ei ymddangosiad cyntaf o’r tymor, a mae’n gobeithio y bydd gemau fel hyn yn ei baratoi ar gyfer unrhyw alwad i’r tîm cyntaf.
“Fe wnaeth y bois ifanc chwarae yn dda a roedd hi’n berfformiad corfforol gan y pac ifanc.
“Mae bois fel Alex Mann a Gwilym Bradley dal yn ifanc, tua 17 neu 18 mlwydd oed, a mae nhw wedi dod mas heno a wedi perfformio’n dda.
“Mae amddiffyn am llawer o’r gêm yn galed ar y corff pan chi heb chwarae mewn wythnosau.
“Ond pan o’n ni’n ardal 22 y Dreigiau o’n ni wedi cymryd y pwyntiau ac yn glinigol, a ni’n hapus gyda hynny.
“Mae gemau fel hyn yn dda i chwaraewyr fel fi, oherwydd ni angen game time. Dyw’r hyfforddwyr ddim am dewis ti os ti ddim yn chwarae.
“Felly mae chwaraewyr fel fi, Ben, Max a Ioan yn cael cyfle i dangos beth ni’n gallu gwneud a mae’n gold i ni gael gemau fel hyn.”
Ymunodd Millard â Ellis Bevan ar y sgor-fwrdd, gan groesi am gais yn yr ail hanner ar ôl i Mason Grady a Morgan Williams gyfuno i greu’r cyfle.
“Roedd gwaith da gan Mason Grady i dorri a o’n i’n meddwl bod nhw’n mynd i sgorio yn y cornel.
“Ond wnaeth y bel ddod draw i’r asgell arall, ac o’n i’n aros yn y gornel yn fan’ ‘na.
“Fi’n meddwl bod y bêl wedi mynd drwy dwylo bron iawn pawb yn y tîm er mwyn i fi sgorio felly oedd e’n arbennig.”