Blog Banner

Cenhedlaeth nesaf o hyfforddwyr yn cael eu datblygu yng Nghrughywel

Cymraeg | 13th May 2022


Daeth cynllun Sefydliad Cymunedol Rygbi Caerdydd i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o hyfforddwyr i ben wythnos yma gyda chystadleuaeth rygbi tag llwyddiannus yng Nghrughywel.

Mae 15 o arweinwyr rygbi Ysgol Uwchradd Crughywel, sydd yn rhan o gwrs BTEC Rygbi Caerdydd, wedi bod yn rhedeg sesiynnau rygbi mewn ysgol gynradd leol trwy gydol y tymor.

Ryan Meredith, Swyddog rygbi'r Sefydliad Cymunedol, oedd yn arwain y cwrs, a roedd pob disgybl o flwyddyn tri i flwyddyn chwech yn Ysgol Gynradd Crughywel wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth, gyda rhai yn cael eu blas cyntaf o chwarae rygbi.

Gyda dros 120 o blant lleol yn chwarae eu rhan, roedd hyfforddwyr o Glwb Rygbi Crughywel a thîm merched Red Kites yn bresennol er mwyn annog y sêr ifanc i barhau i chwarae yn eu cymuned leol.

Mae’r gwaith yng Nghrughywel yn rhan o ymdrech y tîm o fewn ysgolion ar draws y rhanbarth i hybu effeithiau positif rygbi o fewn y gymuned trwy amryw o raglenni, mentrau a gweithdai.