Blog Banner

Caerdydd yn benderfynol o greu atgofion cyn diwedd y tymor meddai Turnbull

Cymraeg | 15th April 2023


Mae carfan Caerdydd yn benderfynol o greu atgofion cyn ddiwedd y tymor, yn ôl y capten Josh Turnbull.

Mae tîm Dai Young wedi teithio i Galway i herio Connacht heno, cyn i’r tymor arferol ddod i ben gyda Dydd y Farn yn Stadiwm y Principality wythnos nesaf.

Mae’r clwb eisoes wedi cyhoeddi y bydd Max Llewellyn, Jarrod Evans a Dillon Lewis yn gadael y brifddinas ar ddiwedd y tymor, a gyda’r ras am yr wyth uchaf yn poethi mae Turnbull yn mynnu fod pawb eisiau gorffen y tymor gyda gwên.

“Dyw Connacht ddim wedi colli gêm gartref ers pum neu chwech gêm nawr,” meddai Turnbull.

“Bydd hi’n sialens fawr yn erbyn nhw. Mae nhw’n chwarae ar gae artiffisial nawr ond gobeithio bydd hynny’n dda i ni oherwydd ni’n ymarfer ar gae fel ‘na pob dydd.

“Gobeithio bydd y tywydd yn dda i ni er mwyn i ni allu chwarae bach o rygbi mas ‘na.

“Mae’r ffaith fod lot o fois yn symud ymlaen yn anodd i’w weld. Ond ni gyd eisiau gweld nhw’n symud ymlaen gyda gwên ar eu wynebau nhw.

“Os ni’n mynd mewn i’r wyth uchaf a cyrraedd y play-offs, mae unrhyw beth yn gallu digwydd ar y dydd.”