Bydd Caerdydd yn croesawu Munster i Barc yr Arfau ar benwythnos agoriadol tymor y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Gyda dim ond 50 diwrnod tan yr ymgyrch newydd, mae’r amserlen ar gyfer y tymor newydd wedi ei gadarnhau, gyda gwyr y Du a’r Glas yn cychwyn o flaen eu torf cartref.
Bydd y tri penwythnos agoriadol hefyd yn cynnwys taith i Glasgow cyn i’r Emirates Lions ymweld â Parc yr Arfau am y tro cyntaf.
Mae’r gêm ddarbi cyntaf yn cael ei gynnal yn rownd pedwar, gyda Caerdydd yn teithio i Lanelli, ac yr wythnos ganlynol mi fydd tîm Dai Young yn herio CR Dreigiau yn y brifddinas.
Y Dreigiau oddi-cartref fydd yr ornest ar Ddydd San Steffan eleni, ond mae gemau gartref yn erbyn y Gweilch a’r Scarlets yn dilyn yn y Flwyddyn Newydd.
Mae gêm gartref olaf y tymor yn rownd 15 – sydd yn cael ei gynnal ar benwythnos Mawrth 3 – gyda Ulster yn ymweld â’r brifddinas, cyn i’r tymor ddod i ben â triawd o gemau oddi-cartref yn erbyn Zebre Parma, Connacht a’r Gweilch.
Mae disgwyl i’r dyddiau a’r amseroedd gael eu cadarnhau o fewn y pythefnos nesaf. Mae pob gêm cartref yn ystod tymor y Bencampwriaeth Rygbi Unedig wedi cael eu cynnwys o fewn Aelodaeth Tymor, sydd ar gael nawr.
Gemau ar gyfer tymor 2022/23 Pencampwriaeth Rygbi Unedig
R1 – Medi 16/17/18
Caerdydd v Munster
R2 – Medi 23/24/25
Glasgow Warriors v Caerdydd
R3 – Medi 30/31 | Hydref 1
Caerdydd v Emirates Lions
R4 – Hydref 7/8/9
Scarlets v Caerdydd
R5 – Hydref 15/16/17
Caerdydd v CR Dreigiau
R6 – Hydref 21/22/23
Caerdydd v DHL Stormers
R7 – Hydref 28/29/30
Caerdydd v Edinburgh Rugby
R8 – Tachwedd 25/26/27
Cell C Sharks v Caerdydd
R9 – Rhagfyr 2/3/4
Vodacom Bulls v Caerdydd
R10 – Rhagfyr 23/24/25
CR Dreigiau v Caerdydd
R11 – Rhagfyr 30/31 | Ionawr 1
Caerdydd v Gweilch
R12 – Ionawr 6/7/8
Caerdydd v Scarlets
R13 – Ionawr 27/28/29
Leinster v Caerdydd
R14 – Chwefror 17/18/19
Caerdydd v Benetton
R15 – Mawrth 3/4/5
Caerdydd v Ulster
R16 – Mawrth 24/25/26
Zebre Parma v Caerdydd
R17 – Ebrill 14/15/16
Connacht v Caerdydd
R18 – Ebrill 21/22/23
Gweilch v Caerdydd