Blog Banner

Caerdydd i gynnal Munster ar benwythnos agoriadol y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Cymraeg | 28th July 2022


Bydd Caerdydd yn croesawu Munster i Barc yr Arfau ar benwythnos agoriadol tymor y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Gyda dim ond 50 diwrnod tan yr ymgyrch newydd, mae'r amserlen ar gyfer y tymor newydd wedi ei gadarnhau, gyda gwyr y Du a'r Glas yn cychwyn o flaen eu torf cartref.

Bydd y tri penwythnos agoriadol hefyd yn cynnwys taith i Glasgow cyn i'r Emirates Lions ymweld â Parc yr Arfau am y tro cyntaf.

Mae'r gêm ddarbi cyntaf yn cael ei gynnal yn rownd pedwar, gyda Caerdydd yn teithio i Lanelli, ac yr wythnos ganlynol mi fydd tîm Dai Young yn herio CR Dreigiau yn y brifddinas.

Y Dreigiau oddi-cartref fydd yr ornest ar Ddydd San Steffan eleni, ond mae gemau gartref yn erbyn y Gweilch a'r Scarlets yn dilyn yn y Flwyddyn Newydd.

Mae gêm gartref olaf y tymor yn rownd 15 - sydd yn cael ei gynnal ar benwythnos Mawrth 3 - gyda Ulster yn ymweld â'r brifddinas, cyn i'r tymor ddod i ben â triawd o gemau oddi-cartref yn erbyn Zebre Parma, Connacht a'r Gweilch.

Mae disgwyl i'r dyddiau a'r amseroedd gael eu cadarnhau o fewn y pythefnos nesaf. Mae pob gêm cartref yn ystod tymor y Bencampwriaeth Rygbi Unedig wedi cael eu cynnwys o fewn Aelodaeth Tymor, sydd ar gael nawr.

Gemau ar gyfer tymor 2022/23 Pencampwriaeth Rygbi Unedig

R1 - Medi 16/17/18

Caerdydd v Munster

R2 - Medi 23/24/25

Glasgow Warriors v Caerdydd

R3 - Medi 30/31 | Hydref 1

Caerdydd v Emirates Lions

R4 - Hydref 7/8/9

Scarlets v Caerdydd

R5 - Hydref 15/16/17

Caerdydd v CR Dreigiau

R6 - Hydref 21/22/23

Caerdydd v DHL Stormers

R7 - Hydref 28/29/30

Caerdydd v Edinburgh Rugby

R8 - Tachwedd 25/26/27

Cell C Sharks v Caerdydd

R9 - Rhagfyr 2/3/4

Vodacom Bulls v Caerdydd

R10 - Rhagfyr 23/24/25

CR Dreigiau v Caerdydd

R11 - Rhagfyr 30/31 | Ionawr 1

Caerdydd v Gweilch

R12 - Ionawr 6/7/8

Caerdydd v Scarlets

R13 - Ionawr 27/28/29

Leinster v Caerdydd

R14 - Chwefror 17/18/19

Caerdydd v Benetton

R15 - Mawrth 3/4/5

Caerdydd v Ulster

R16 - Mawrth 24/25/26

Zebre Parma v Caerdydd

R17 - Ebrill 14/15/16

Connacht v Caerdydd

R18 - Ebrill 21/22/23

Gweilch v Caerdydd