Blog Banner

Cael gwared o gamgymeriadau yn hanfodol meddai Boyde

Cymraeg | 6th November 2020


Mae cael gwared o gamgymeriadau yn hanfodol i Gleision Caerdydd os ydynt am ennill gemau, meddai Will Boyde.

Mae tîm John Mulvihill wedi colli dwy gêm agos yn erbyn y timau Gwyddelig yn ddiweddar, gyda Boyde yn dychwelyd o anaf i serennu yn erbyn Ulster wythnos diwethaf.

Mae’r chwaraewr rheng ôl yn teimlo gall ei dîm fod yn hyderus wrth deithio i Gaeredin ond mae’n rhaid iddynt weithredu y gwaith paratoi ar y maes chwarae.

“I ddweud y gwir, oedd e’n teimlo’n eithaf naturiol i fod yn ôl mas ‘na, er o’n i wedi gorfod taclo mwy nag oni’n meddwl bydde rhaid i fi wneud,” meddai Boyde.

“Daeth hynny trwy camgymeriadau ein hunain, ond roedd hi’n brawf da i’r cyrff a fi wedi dod trwy hynny’n iawn.

“Mae digon o hyder gyda ni, a ni’n credu yn ein hunain, ond mae e wedi bod am y camgymeriadau bach ni’n gwneud trwy’r gemau ni wedi colli. 

“Dyw e ddim yn teimlo fel bod y tîm arall wedi curo ni, mae’n teimlo fel bod ni’n curo ein hunain.

“Rhaid cymryd hynny mas o gêm ni a ni’n gwybod ni’n gallu ennill y gemau wedyn.

“Ni’n mynd lan i Caeredin wythnos ‘ma, ni’n edrych ar ein hunain a ceisio peidio gwneud camgymeriadau a colli’r bêl yn rhy syml.

“Ni eisiua rhoi pwysau ar y timau eraill yn lle rhoi’r pwysau yna ar ein hunain.

“Blwyddyn yma yn fwy na unrhyw arall, pan ti’n edrych trwy’r garfan, mae tîm ar bapur yn edrych yn gryf. 

“Ar ein dydd, ni’n gallu curo Caeredin lan ‘na. Ni wedi ymarfer yn galed trwy’r wythnos a ni’n gwybod beth mae’n rhaid i ni wneud i fynd lan ‘na ac ennill y gêm.

“Ond nawr mae’n rhaid i ni wneud e. Ni ddim yn gallu dweud a gwybod beth i wneud, mae’n rhaid gwneud e mas ar y cae.

“Ni’n mynd lan gyda hyder ein bod ni’n gallu ennill y gêm ond mae’n rhaid i ni ddod gyda’n gilydd nawr a gweithio ar y pethau sydd angen eu gwella.

“Os ni’n troi lan gyda’r pen iawn a peidio gwneud y camgymeriadau syml, ni’n gallu mynd mewn i’r gêm yn teimlo’n dda.”

Mae Boyde yn rhan o reng ôl cystadleuol yn y rhanbarth, gyda chwaraewyr ifanc fel James Botham, Shane Lewis-Hughes, Sam Moore ac Alun Lawrence yn ychwanegu i brofiad Ellis Jenkins, Olly Robinson, Josh Turnbull a Josh Navidi.

Mae’r gystadleuaeth iach o fewn y garfan yn gymhelliant i’r holl chwaraewyr wthio eu gilydd, meddai Boyde.

“Mae’r Gleision wedi cael chwaraewyr arbennig yn y rheng ôl ers sbel nawr. Dyw e ddim yn rhywbeth newydd i ni.

“Ond mae’n dda i fi oherwydd mae’n gorfodi fi i weithio ar y manylion bach yn gêm fi sydd rhaid i fi wella.

“Gobeithio bydd hynny’n dangos wrth fynd ymlaen.

“Mae’r dyfnder yn y rheng ôl yn helpu i wthio’r chwaraewyr ifanc, ond hefyd y bychgyn hynaf a gobeithio bydd hynny’n help i bawb.”