Blog Banner

Cabango yn dod i arfer gyda bywyd yn y tim cyntaf

Cymraeg | 6th May 2022


Mae Theo Cabango yn benderfynol o barhau i ddatblygu fel chwaraewr rygbi wrth iddo ddod i arfer â bywyd ar lefel uchaf y gamp.

Mae’r asgellwr, sydd wedi croesi am bedwar cais mewn saith gêm dros Gaerdydd, wedi ei enwi yn nhîm Dai Young ar gyfer gêm gartref olaf y tymor yn erbyn Zebre Parma heno.

Mae Cabango yn mwynhau bod yn rhan o’r tîm cyntaf ym Mharc yr Arfau, ac er fod croesi’r llinell gais yn deimlad braf, mae’n mynnu mai helpu’r tîm yw ei flaenoriaeth.

“Mae hi wastad yn neis i gael ceisiau fel asgellwr ac yn bersonol fi eisiau cael dwylo ar y bêl gymaint a fi’n gallu,” meddai’r cyn-ddisgybl o Glantaf a Plas Mawr.

“Mae’n braf sgorio pwyntiau, ond nid dyna’n unig beth mae’r gêm yn ei olygu i fi. Fi eisiau helpu’r tîm mas.

“Fel tîm ni’n ceisio cadw yn positif a gwneud popeth yn gywir. Os ni’n gwneud hynny gallwn ni guro Zebre, ond bydd hi’n galed.

“Dyw’r lefel yma ddim yn mynd yn fwy hawdd, ond fi’n dod yn fwy cyfforddus. Bydd chwarae yn erbyn timau fel Munster wastad yn gwneud chi’n nerfus.

“Ond mae gweld beth chi’n gwneud yn gywir ac anghywir yn ffordd o wneud i chi wella.

“Mae wastad yn braf cael chwarae ar y lefel yma, a mae ceisiau a canlyniadau yn gwneud popeth yn well.

“Chi’n teimlo ar top y byd, felly mae’n sicr yn bril i chwarae ar y lefel yma.”

Bydd clwb y brifddinas yn edrych am eu buddugoliaeth gyntaf mewn pum gêm pan mae’r Eidalwyr yn  ymweld â Pharc yr Arfau.

Ac er i Zebre hawlio buddugoliaeth dros y Dreigiau wythnos diwethaf, mae Cabango yn dweud mai canolbwyntio ar eu hunain sydd rhaid i Gaerdydd wneud.

Ychwanegodd: “Wythnos yma ni wedi ymarfer a canolbwyntio ar ein hunain. Ni eisiau cymryd yr agweddau positif o’r gêm yn erbyn Munster.

“Doedd y canlyniad ddim yn dangos pa fath o gêm oedd hi, achos o’n ni wedi perfformio yn dda.

“Ond o’n nhw bach yn rhy gryf i ni, ac wedi aros yn y gêm ychydig yn well. Ond mae’n bwysig i ni ganolbwyntio ar ein hunain.

“Mae nhw’n dîm corfforol iawn sydd yn hoffi chwarae o unrhyw le. Ni ddim am gymryd nhw’n ysgafn.

“Ni’n sicr yn edrych ymlaen i chwarae yn eu herbyn nhw, a mae nhw’n dîm agored iawn.

“Bydd na cwpwl o llefydd i ni ddod mewn i’r gêm gobeithio, a chael cwpwl o geisiadau. Fi’n siwr bydd hi’n gêm agored a fi’n edrych ymlaen.”