Mae Dillon Lewis yn credu fod yr wythnosau nesaf yn gyfnod hanfodol i Gleision Caerdydd, wrth iddyn nhw geisio dringo'r tabl yn y Guinness PRO14.
Ar ôl colli pedair gêm yn olynol, fe wnaeth tîm John Mulvihill ymateb wrth i gic munud olaf Gareth Anscombe sicrhau buddugoliaeth dros y Dreigiau ym Mharc yr Arfau nos Wener.
Bydd ffocws y tîm nawr yn troi at y ddwy gêm ddarbi sydd yn weddill - yn erbyn y Scarlets a’r Gweilch - a mae Lewis yn credu gall y gemau hyn fod yn bwysig wrth i’w dîm geisio sicrhau eu lle yng Nghwpan y Pencampwyr flwyddyn nesaf.
“Bydd y ddwy gêm nesaf yn rhoi amser caled i ni yn erbyn y Scarlets a’r Gweilch, a ni’n gwybod beth i ddisgwyl gan y timau hynny,” meddai’r prop.
“Rhain yw’r gemau mae pawb eisiau chwarae ynddyn nhw. Mae’r Scarlets wedi cael cwpwl o gemau caled yn ddiweddar, a bydd hon yn un gallwn ni edrych ymlaen ati. Mae hi’n gyfnod cyffrous.
“Ni wedi gadael canlyniadau ar y cae tymor yma, a wedi colli gemau y bydden ni wedi gallu ennill.
“Felly bydd y pedair wythnos nesaf yn enfawr i ni, oherwydd mae’n rhaid i ni barhau i ennill gemau yn y cyfnod yna.
“Fel tîm, mae’n rhaid rhoi Ewrop tu ôl i ni a canolbwyntio ar y PRO14, felly mae’n gyfnod enfawr i ni a ni’n gwybod hynny.
“Ar lefel bersonol, mae’n rhaid i fi ganolbwyntio ar berfformio dros y rhanbarth. Fi wedi cael llawer mwy o gemau eleni, a fi’n mwynhau fy rygbi ar hyn o bryd.
“Mae’n rhaid i fi barhau i adeiladu a ennill fy lle yn y tim er mwyn parhau i rhoi fy llaw lan ar gyfer y tîm cenedlaethol.”
Roedd y Dreigiau i weld wedi llwyddo i gipio gêm gyfartal yn y brifddinas, yn dilyn cais hwyr gan Jarryd Sage.
Ond, yn y gwynt a’r glaw, fe gamodd Anscombe i’r llwyfan, gan ychwanegu cic gosb yn y chwarae olaf i seilio’r pedair pwynt i’w dîm.
Roedd yr amodau wedi gwneud hi’n anodd i Gleision Caerdydd roi eu stamp ar y gêm, yn ôl Lewis, wrth i flaenwyr y Dreigiau geisio wneud y mwyaf o’r tywydd erchyll.
“Roeddem ni’n gwybod cyn y gêm y byddai’r tywydd yn ei gwneud hi’n gêm galed a byddai’r amodau hynny yn siwtio’r Dreigiau.
“Roedd ‘na ambell i benderfyniad wedi mynd yn ein herbyn ni, a roedd hynny wedi rhoi ni mewn lle anodd.
“Roedd y Dreigiau yn gryf gyda’r set-piece, ond roedd hi’n dda i weld Gareth [Anscombe] yn cicio’r pwyntiau i ennill y gêm yn y diwedd.
“Fe wnaeth Gareth lwyddo i gicio’r pwyntiau pan oedden ni eu hangen nhw, a dyna wnaeth ennill y gêm i ni heno.
“Tydi gemau darbi yn erbyn y Dreigiau byth yn hawdd, a gyda pac cryf ni wastad yn disgwyl ychydig o frwydr yn y blaenwyr.
“Pan mae hyfforddwr yn gadael, chi fel arfer yn gweld tîm yn ymateb, a dyna wnaeth y Dreigiau yn ein herbyn ni. Mae nhw wedi rhoi eu dwylo lan a chwarae’n dda.
“Mae nhw’n dîm ifanc, ond yn cynnwys nifer o chwaraewyr gwych fel Hallam Amos, Aaron Wainwright, Elliot Dee a Cory Hill, a mae nhw wedi dangos eu bod nhw’n gallu perfformio.”